Mae Katie yn Gyfarwyddwr cwmni cyfathrebu sy’n ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned yn Alltwen. Mae ganddi dros 10 mlynedd o brofiad o weithio ar ennill caniatâd cynllunio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys storio mewn batris, llanw, gwynt a solar. Mae ganddi brofiad hefyd o ddarparu seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd, cynlluniau datblygu lleol ac estyniadau trefol defnydd cymysg, ar raddfa fawr. Mae hi’n frwd dros wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a’r DU.