Jenny Carlisle

Mae gan Jenny dros 10 mlynedd o brofiad o gefnogi sefydliadau cymunedol i ddatblygu systemau ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned trwy raglen gymorth Llywodraeth Cymru. Mae Jenny yn angerddol am y cyfraniad y gall ynni cymunedol ei wneud i gymdeithas fwy teg a chyfartal. Hefyd y cyfraniad y gall ynni cymunedol ei wneud tuag at ymgysylltu a chefnogi cymunedau lleol mewn cyfnod pontio ehangach o amgylch effeithiau ehangach y defnydd o ynni a’i gysylltiad â’r argyfwng ecolegol.  Cyn hynny bu Jenny yn gweithio gydag AAT fel Swyddog Datblygu a chynorthwyodd i ddatblygu fferm wynt Awel a sefydlu Egni.  Mae gan Jenny BEng mewn Peirianneg Fecanyddol ac MSc mewn Ynni Adnewyddadwy.

Rhannu’r Dudalen