Mae Jen yn rheoli ein rhaglen addysg ac mae wedi datblygu rhaglen gyffrous ac arloesol gyda’n hysgolion Egni o’r enw ‘Rhyfelwyr Ynni ydyn Ni’. Mae Jen wedi gweithio ym myd addysg ers blynyddoedd lawer – yn gyntaf fel Llyfrgellydd ac yna fel athrawes Saesneg cyn setlo o’r diwedd mewn rolau yn y trydydd sector yn rheoli rhaglenni addysg. Mae hi’n angerddol am ddysgu pobl ifanc sut y gall byw bywyd cynaliadwy fod yn hwyl, ac annog chwilfrydedd, creadigrwydd a sgiliau meddwl yn annibynnol. A hithau’n hoff o’r awyr iach, mae’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a datblygu prosiectau addysg newydd cyffrous.