Mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, gyda hanner ohono wedi’i dreulio’n dylanwadu ar bolisi ac yn cyflawni prosiectau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio i Gymorth Cristnogol, gan sicrhau bod cefnogwyr ymg Nghymru yn cael eu hysgogi a’u harfogi i gefnogi gwaith yr elusen yn mynd i’r afael â thlodi byd-eang ac effaith ddinistriol newid hinsawdd ar y cymunedau y mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda nhw. Cyn hynny, bu’n Rheolwr Cysylltiadau Aelodau ar gyfer Tai Pawb, elusen sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector tai yng Nghymru. Yn y rôl hon, bu’n helpu i ddatblygu a chyflwyno’r nod ansawdd QED arobryn. Mae Helen yn aelod cysylltiol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae wedi dysgu Cymraeg nes iddi fod bron yn rhugl ac yn aelod o dair menter gydweithredol ynni cymunedol, gan gynnwys Egni Co-op.