Mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yng Nghymru, gyda hanner ohono wedi’i dreulio’n dylanwadu ar bolisi ac yn cyflawni prosiectau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Rheolwr Prosiect i Cymru Gynnes, yn rheoli prosiectau sy’n codi ymwybyddiaeth o negeseuon arbed ynni ac yn rhoi cymorth a chyngor i ddeiliaid tai i’w helpu i gael cartrefi cynnes a chyn hynny bu’n gweithio i National Energy Action (NEA) Cymru. Mae ei rolau y tu allan i’r sector tlodi tanwydd yn cynnwys ymgysylltu â chefnogwyr ar gyfer elusen ryngwladol sy’n canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar y cymunedau tlotaf yn fyd-eang, a rheoli cysylltiadau aelodau ar gyfer Tai Pawb, elusen sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn sector tai Cymru. Mae Helen yn aelod cysylltiol o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, mae wedi dysgu Cymraeg nes iddi fod bron yn rhugl ac yn aelod o bedair menter gydweithredol ynni cymunedol, gan gynnwys Egni Co-op.