Mae gan Felicity brofiad helaeth yn y sector elusennol yn ne Cymru, gan gynnwys fel gweithiwr cymorth, rheolwr prosiect ac arweinydd dwy elusen fach arall – Links, elusen iechyd meddwl, a Valley Steps, elusen llesiant – gan ddatblygu eu cryfderau sefydliadol a’u cynaliadwyedd ariannol. Mae hi bellach yn mwynhau gweithio mewn maes sy’n agos i’w chalon wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Rôl Felicity gydag AAT, ers mis Mai 2021, yw cryfhau’r seilwaith a’r weinyddiaeth ariannol yn dilyn twf cyflym Egni yn y blynyddoedd diwethaf. Mae gan Felicity ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol, sy’n crynhoi’r defnydd o dechnegau rheoli arferion da ac yn darparu offer AD y gellir eu defnyddio ar bob lefel.
Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr i YMCA Caerdydd. Mae ganddi radd mewn Celfyddyd Gain (cerameg) a gradd Meistr mewn Menter Celfyddydau Gweledol.