Emily Hinshelwood

Mae Emily yn anthropolegydd cymdeithasol ac yn ymarferwr creadigol. Mae Emily yn gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Creadigol Awel Aman Tawe (AAT). Mae hi wedi ysgrifennu a dylunio holl gyhoeddiadau AAT gan gynnwys y Pecyn Cymorth Ymgynghori Ffermydd Gwynt a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, ein Dogfennau Cynnig Cyfranddaliadau Awel ac Egni, papurau academaidd a’r holl ddeunydd hyrwyddo. Sefydlodd raglen gelfyddydau a newid hinsawdd AAT yn 2010 ac ar hyn o bryd mae’n rheoli prosiect Hwb y Gors – sy’n ailwampio hen ysgol gynradd Cwmgors yn ganolfan gelfyddydau, addysg a menter di-garbon. Mae Emily yn angerddol dros ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar yr hinsawdd ac mae wedi cynnal llawer o brosiectau i’r perwyl hwnnw. Ymhlith y rhain, ei ffefrynnau yw: calendr Ynni Adnewyddadwy Noeth AAT 2007 (annogwyd dros 70 o bobl i dynnu eu dillad – yn enw ynni adnewyddadwy); ei Thaith Gynaliadwy i’r Lleuad yn 2019 a oedd yn cynnwys dros 700 o bobl yn adeiladu capsiwl Lunar lle bu’n byw fel artist preswyl am bythefnos ar lawr uchaf Canolfan Gelfyddydau Pontardawe; a’i thaith gerdded ar draws Cymru (2012) lle gofynnodd i bob person y cyfarfu â hi ‘3 chwestiwn am newid hinsawdd’ a chreu cerddi gair am air o’u hatebion. Mae hi wedi cyflwyno’r rhain mewn cynadleddau hinsawdd gan Lywodraeth Cymru a rhai eraill yn y DU ac Ewrop. Ac yn wir, mae hi’n wallgo’!

Rhannu’r Dudalen