Mae Elouise yn Swyddog Datblygu Solar i Egni Co-op. Mae ganddi BSc mewn Geoffiseg o Brifysgol Durham. Ar ôl graddio, dechreuodd weithio i Egni drwy gynllun Kickstart y llywodraeth a chyn pen dim, daeth yn aelod allweddol o dîm Egni. Mae hi wedi bod gyda ni ers 2021, yn gweithio i hyrwyddo datblygu mwy o osodiadau solar. Mae hi’n canolbwyntio’n bennaf ar asesiadau dichonoldeb a chwmpasu ar safleoedd newydd posibl.