Mae gan Catrin radd gyntaf mewn Gwyddor Peirianneg a gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Ynni, a dechreuodd ei bywyd gwaith mewn peirianneg rheweiddio, ond yna symudodd i effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau oherwydd tlodi tanwydd. Sefydlodd Catrin wasanaeth cyngor ynni i denantiaid yn Llundain yn yr 1980au, gan ysgrifennu llawlyfrau ar gyngor gwresogi cartrefi, atal drafftiau ac ailgylchu. Aeth ymlaen i weithio gyda nifer o awdurdodau lleol i ddatblygu agweddau effeithlonrwydd ynni mewn rhaglenni adnewyddu tai, yn ogystal â strategaethau cynhesu fforddiadwy a lleihau allyriadau carbon. Rhwng 1999 a 2015, bu Catrin yn arwain sefydlu a thwf Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, elusen gynaliadwyedd yn Swydd Gaerloyw, sydd ag amrywiaeth o brosiectau a phartneriaethau cyflenwi ymarferol a chyfnewid gwybodaeth yng Nghymru, De-orllewin Lloegr a’r UE. Ers 2015, mae Catrin wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol ar ymchwil a pholisi yn y DU a’r UE, ac wedi cwblhau PhD yn canolbwyntio ar rôl y diwydiant adeiladu prif ffrwd mewn ôl-osod ynni cartref.
Mae Catrin yn aelod o Grŵp Gorchwyl Safonau Ôl-osod y BSI, a’r Sefydliad Ynni, yn gymrawd o’r RSA ac yn Gynghorydd Cysylltiol gyda’r Academi Ôl-osod a’r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu. Derbyniodd Catrin OBE yn 2012 am wasanaethau i’r amgylchedd a thegwch cymdeithasol. Mae Catrin bellach yn byw ger Trefynwy.