Mae gan Chris brofiad helaeth yn y sector nid-er-elw, yng Nghymru, ar draws y DU ac yn ne Affrica, ac mae’n ymrwymedig i gyfiawnder cymdeithasol a hyrwyddo lleisiau cymunedol wrth wneud penderfyniadau. Mae Chris wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ers iddi gael ei sefydlu yn 2015 – mae’n darparu cymorth a chyllid i gymunedau ledled Cymru i wneud eu hardaloedd yn lleoedd gwell fyth i fyw ynddynt. Yn rhinwedd y swydd hon, mae’n cyd-gadeirio’r Bartneriaeth Dyfeisgarwch Cymunedol sy’n hyrwyddo dulliau cydgynhyrchiol o rymuso cymunedau rhwng y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Cyn hynny, treuliodd 5 mlynedd yn gweithio i Oxfam yn rhedeg eu Rhaglen Tlodi’r DU a’u gweithrediadau yng Nghymru (gan gynnwys ymgyrchu dros newid hinsawdd).
Cyn hynny treuliodd 6 blynedd yn darparu cymorth i bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gan redeg y Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf, ac mae wedi gweithio i sefydliadau ieuenctid a dinesig yn ne Affrica. Ar hyn o bryd mae’n gadeirydd ymadawol Hub Cymru Affrica (swydd a gymerodd yn 2015) ac mae wedi dal rolau anweithredol blaenorol gyda Cadarn Housing a Phobl a Gwaith.