Catrin Evans

Mae Catrin yn weithiwr proffesiynol profiadol ym myd cyllid, gyda thros 35 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth yn y sectorau cyhoeddus, elusennol a masnachol. Mae’n gyn-Gymrawd ICAEW a ymgymhwysodd gyda KPMG, ac yna treuliodd dros 20 mlynedd fel Cyfarwyddwr mewn cwmni cyfrifyddiaeth siartredig cyn symud i uwch rolau arweinyddiaeth yn y sectorau elusennol a chyhoeddus. Mae Catrin yn frwd dros helpu sefydliadau i gyflawni cynaliadwyedd tymor hir trwy arweinyddiaeth ariannol gadarn, gwelliant sefydliadol, llywodraethu da a chydweithredu. Mae’n Gymraes sy’n mwynhau cefnogi sefydliadau sy’n creu newid cadarnhaol i gymunedau ledled Cymru.

Ariennir y swydd Cyfarwyddwr Cyllid gan Sefydliad Esmee Fairbairn.

Rhannu’r Dudalen