Astudiodd Caroline Beirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n ymgynghorydd ynni adnewyddadwy a rheoli prosiectau. Mae hi wedi gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy ers 2006, fel Rheolwr Prosiect, Arweinydd PMO a Rheolwr Rheoleiddio a Chydymffurfio yn Eco2 Ltd, yn ymdrin ag amrywiaeth o dechnolegau adnewyddadwy. Roedd hefyd yn rhan o dîm datblygu fferm wynt Mynydd y Betws yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ganddi brofiad o gylch bywyd llawn datblygu prosiectau – o asesu safleoedd hyd at reoli asedau.