Mae Bethan Edwards yn Ddatblygwr Ynni Adnewyddadwy gydag RWE Renewables. Mae ganddi dros 17 flynedd o brofiad yn y rôl, gan ganolbwyntio’n bennaf ar brosiectau gwynt ar y tir yng Nghymru. Roedd hi’n reolwr prosiect ar gyfer Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa sydd bellach yn weithredol, sef cynllun 28 tyrbin yn Sir Gaerfyrddin. Mae ei rôl hefyd yn cwmpasu sicrhau ansawdd, gweithdrefnau a rheoli risg, gyda chylch gwaith sy’n cwmpasu’r DU gyfan. Yn ddiweddar mae hi wedi cwblhau diploma ôl-raddedig mewn Cynllunio Addasiadau a Chynaliadwyedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen.