Anne Sawhney yw ein Rheolwr Datblygu Ynni sy’n cynorthwyo gyda phrosiectau yn yr amgylchedd adeiledig. Ymhlith ei rolau blaenorol mae rheolwr prosiectau cyfalaf ar gyfer tai cymdeithasol ac ymchwilydd ôl-ddoethurol mewn storio ynni electrocemegol o fewn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei phrofiad a’i chymwysterau mewn peirianneg drydanol, hedfan cylchdro a nanofeddygaeth.