Mae Amanda yn gyfathrebwr ac yn rheolwr prosiect profiadol, sydd wedi gweithio yn y sector nid-er-elw a’r diwydiannau creadigol. Ar ôl astudio’r Gyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Birmingham, dechreuodd weithio yn y maes cyhoeddusrwydd a marchnata, y cynefin naturiol ar gyfer ei brwdfrydedd dros ymgysylltu â phobl a “gwneud i bethau ddigwydd”. Mae’r sefydliadau y cafodd y fraint o weithio iddynt yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, Theatr Dawns Gyfoes Llundain, Canolfan Gelfyddydau Warwig, Gŵyl Ymylol Caeredin, Gwyliau Cerdd a Llenyddiaeth Cheltenham, Wythnos Gelf Swydd Henffordd, Ymddiriedolaeth Sidney Nolan. Yn ystod saib gyrfaol, helpodd ffrind i agor siop lyfrau newydd yn Y Gelli Gandryll, gweithiodd yn siop lyfrau Gŵyl y Gelli Gandryll, rhoddodd gymorth Cysylltiadau Cyhoeddus i ymgyrch llygredd afon Gwy, gwirfoddolodd yn y Darlithoedd Do a Chlwb Ffilmiau Pontardawe a rhoddodd drefn ar fferm fechan fynyddig yng Nghymru. Ymunodd yn gyntaf â Hwb y Gors i helpu i sefydlu’r rhaglen Gwyllt am Ffilm, cyn derbyn cyfrifoldeb cyfathrebu ehangach gydag Awel Aman Tawe.
Ariennir y swydd Rheolwr Cyfathrebu gan Sefydliad Esmee Fairbairn.