Bu Alun yn gweithio yn GIG Cymru am 35 mlynedd cyn ymddeol yn 2019. Mae’n gyfrifydd cymwysedig a oedd, yn ystod ei yrfa, yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn nifer o sefydliadau’r GIG yng Nghymru. Heblaw am gyfnod yn 2003/04 pan fu’n gweithio yn hen Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe, mae Alun wedi dilyn ei yrfa yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Yn Gymro Cymraeg o Landudno, astudiodd Alun ym Mhrifysgol Caerdydd, yna bu’n gweithio ac yn byw yng Nghaerdydd am nifer o flynyddoedd cyn symud i Ben-y-bont ar Ogwr 24 blynedd yn ôl.
O ran ei ddyletswyddau gwirfoddol, mae Alun yn gyfarwyddwr Tenovus Trading Limited, cangen fasnachu elusen Gofal Canser Tenovus.