Targed y Cynnig Cyfranddaliadau wedi’i Chwalu

Mae Egni Coop wedi cyhoeddi ei fod wedi estyn ei Gynnig Cyfranddaliadau i £2m, gan ei fod newydd gyrraedd ei darged blaenorol o £1.5m.

Meddai’r Cyfarwyddwr, Rosie Gillam “Mae ein gosodwyr wrthi’n gweithio ar draws Cymru i osod paneli solar ar safleoedd y funud yma. Yn ystod y 3 wythnos diwethaf, rydym wedi gosod mwy nag 1MW a’r disgwyl yw y byddwn wedi treblu hyn cyn diwedd mis Mawrth. Gallwch weld ein holl safleoedd sydd wedi’u gosod hyd yma.”

Meddai’r Cyfarwyddwr, Dan McCallum MBE “Mae’n newyddion gwych bod pobl ledled y Deyrnas Unedig mor awyddus i fuddsoddi a chefnogi ynni adnewyddadwy.

Rydym wedi penderfynu cadw’r gyfradd llog flynyddol ar gyfer ein Cynnig Cyfranddaliadau ar @4%. Rydym wedi cael benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru – ond byddai’n well gennym beidio â chodi’r cyfan am fod y gyfradd llog yn 5%. Felly gallwn gynyddu’r gwaith addysgol a wnawn mewn ysgolion os gallwn ariannu mwy o’n gosodiadau o gyllid y Cynnig Cyfranddaliadau. Mae’r Banc Datblygu wedi bod yn rhagorol ac nid ydynt yn codi tâl ychwanegol os na fyddwn yn codi’r holl fenthyciad neu’n ei ad-dalu’n gynnar.

Llyfrgell Cymer Afan

Daw cyllid y Banc Datblygu oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n gefnogol iawn i brosiectau ynni cymunedol – felly os gallwn leihau’r swm y mae angen i ni ei  fenthyca gan y Banc, mae’n golygu bod mwy ar gael ar gyfer prosiectau ynni cymunedol eraill. Mae nifer o brosiectau gwych yn datblygu ar draws Cymru ar hyn o bryd, yn cynnwys tyrbinau gwynt cymunedol gan Community Energy Pembrokeshire a Chwm Arian, a phrosiect storfeydd batris cyffrous iawn gan Gower Power. Mae grwpiau ledled Cymru yn gweithio ar brosiectau Ynni Cymunedol – gallwch weld graddfa’r gwaith ar wefan Ynni Cymunedol Cymru .

Neuadd Bentref Clynderwen

Erbyn hyn, mae Cymru wir yn arwain y ffordd ar lefel Brydeinig yn nhermau ymgysylltu â’r cyhoedd ar adnewyddion. Mae prosiectau ynni gwynt rhan-berchenogaeth newydd gwych yn ymsefydlu hefyd sy’n cynnwys Mentrau ar y Cyd rhwng sefydliadau cymunedol a chwmnïau masnachol. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i annog hyn. Mae angen cymaint o gyfranogiad â phosibl arnom, ar wahanol lefelau, i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Rhannu’r Dudalen