Os ydych chi, neu rywun rydych yn eu cefnogi, mewn grŵp bregus, gall Taith eich helpu gyda’ch trefniadau teithio yn ein cerbydau trydan.
Gallwn helpu gyda theithiau fel mynd i apwyntiadau meddygol, deintyddol a thrin traed, apwyntiadau ysbyty, teithiau siopa unigol, ymweld â theulu a ffrindiau, teithiau i’r fet neu ymweliadau cymdeithasol.
Mae pob taith yn dibynnu ar argaeledd ein gyrwyr a’n cerbydau ac yn ôl disgresiwn y cydlynydd. Mae’r teithwyr yn talu’r gyrrwr ar y diwrnod teithio a chodir lleiafswm o £5 am bob taith.
Gallwch gysylltu â Taith ar 07915 026578 rhwng 9am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. Os na fydd neb yn ateb, gadewch neges a byddwn yn eich galw nôl.
Rhowch gymaint o rybudd a phosibl – o leiaf 48 awr o ddewis – fel bod digon o amser gan y cydlynydd i ddod o hyd i yrrwr sy’n rhydd pan fod angen.