Tair swydd newydd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a chyfleoedd eraill. Rhannwch nhw!

Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer tair swydd newydd. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl o unrhyw ran o’r DU sy’n awyddus i weithio yn y sector newid hinsawdd. Does dim rhaid i chi feddu ar yr holl sgiliau a restrir, ond mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i ddysgu ac i gymhwyso’ch gwybodaeth at gefnogi ein prosiectau – disgrifir rhai ohonynt isod.

Dyluniwyd gan ein cydsefydlydd, Emily Hinselwood, i ddathlu Pythefnos Ynni Cymunedol 2021

Rydym wedi codi targed Cynnig Cyfranddaliadau Egni Co-op i £4.8m. Mae gan y cwmni cydweithredol gyfanswm o 4.4MWp ar 88 o doeon yng Nghymru, ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol, a phob un yn cael cymorth gan Dariff Bwydo i Mewn (FIT). Byddai’n dda gennym pe gallech ail-drydar y diweddariad ar ein Cynnig Cyfranddaliadau ar “>Facebook – mae’r rhan fwyaf o’n haelodau newydd wedi dod atom drwy glywed ar lafar neu ar y cyfryngau cymdeithasol (ac mae am ddim, sy’n golygu y gallwn wario mwy ar brosiectau addysg a Hwb y Gors isod!)

Hwb y Gors

Mae Awel ac Egni wedi parhau i gynhyrchu llawer o ynni adnewyddadwy ac rydyn ni’n hyderus y byddwn yn gallu talu llog yn unol â’n Cynigion Cyfranddaliadau ym mis Mawrth 2022.

Rydyn ni’n chwilio am dri ymddiriedolwr newydd gan fod y ddau ymddiriedolwr sydd wedi gwasanaethu hiraf, Mary Ann Brocklesby a Linley Jenkins, yn camu i lawr. Gallwch fod yn unrhyw ran o’r DU gan ein bod yn cwrdd ar Zoom bedair gwaith y flwyddyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i gefnogi a llywio ein gwaith yn datblygu Cwmnïau Cydweithredol Egni ac Awel, ynghyd â Hwb y Gors. Byddem yn croesawu pobl sydd â’r sgiliau/diddordebau canlynol – gweithio mewn tîm, cyllid, y celfyddydau, addysg, trafnidiaeth, adfywio, effeithlonrwydd ynni, ac ynni adnewyddadwy. Anfonwch e-bost yn mynegi eich diddordeb at ein Dirprwy Gyfarwyddwr, Felicity Crump ar felicity@awel.coop

Felicity Crump, ein Dirprwy Gyfarwyddwr

Ein gweithgareddau yn 2021

Ysgol Gyfun Casnewydd yn ymweld â’n tyrbinau