Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer tair swydd newydd. Rydyn ni eisiau clywed gan bobl o unrhyw ran o’r DU sy’n awyddus i weithio yn y sector newid hinsawdd. Does dim rhaid i chi feddu ar yr holl sgiliau a restrir, ond mae’n rhaid i chi fod yn awyddus i ddysgu ac i gymhwyso’ch gwybodaeth at gefnogi ein prosiectau – disgrifir rhai ohonynt isod.
Rydym wedi codi targed Cynnig Cyfranddaliadau Egni Co-op i £4.8m. Mae gan y cwmni cydweithredol gyfanswm o 4.4MWp ar 88 o doeon yng Nghymru, ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol, a phob un yn cael cymorth gan Dariff Bwydo i Mewn (FIT). Byddai’n dda gennym pe gallech ail-drydar y diweddariad ar ein Cynnig Cyfranddaliadau ar “>Facebook – mae’r rhan fwyaf o’n haelodau newydd wedi dod atom drwy glywed ar lafar neu ar y cyfryngau cymdeithasol (ac mae am ddim, sy’n golygu y gallwn wario mwy ar brosiectau addysg a Hwb y Gors isod!)
Mae Awel ac Egni wedi parhau i gynhyrchu llawer o ynni adnewyddadwy ac rydyn ni’n hyderus y byddwn yn gallu talu llog yn unol â’n Cynigion Cyfranddaliadau ym mis Mawrth 2022.
Rydyn ni’n chwilio am dri ymddiriedolwr newydd gan fod y ddau ymddiriedolwr sydd wedi gwasanaethu hiraf, Mary Ann Brocklesby a Linley Jenkins, yn camu i lawr. Gallwch fod yn unrhyw ran o’r DU gan ein bod yn cwrdd ar Zoom bedair gwaith y flwyddyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i gefnogi a llywio ein gwaith yn datblygu Cwmnïau Cydweithredol Egni ac Awel, ynghyd â Hwb y Gors. Byddem yn croesawu pobl sydd â’r sgiliau/diddordebau canlynol – gweithio mewn tîm, cyllid, y celfyddydau, addysg, trafnidiaeth, adfywio, effeithlonrwydd ynni, ac ynni adnewyddadwy. Anfonwch e-bost yn mynegi eich diddordeb at ein Dirprwy Gyfarwyddwr, Felicity Crump ar felicity@awel.coop
Ein gweithgareddau yn 2021
- Erbyn hyn, Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU sy’n arbed mwy na £100k mewn costau trydan ac yn lleihau allyriadau carbon o 1000 tunnell y flwyddyn. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio safleoedd ar gyfer gosodiad heb gymhorthdal a byddwn yn lansio Cynnig Cyfranddaliadau newydd yn 2022.
- Parhaodd tyrbinau gwynt Awel i droi ac fe gawson ni ganiatâd cynllunio ar gyfer fferm solar ar y ddaear 1.2MW i rannu’r cysylltiad grid. Ar hyn o bryd rydyn ni’n sicrhau caniatâd am brosiectau eraill ac yn ystyried ymgeisio am gyllid grant i’n helpu i adeiladu’r prosiect hwn.
- Mae’r gwaith ar Hwb y Gors – ein canolfan gelfyddydau, addysg a menter newydd – yn mynd yn ei flaen yn hwylus. Mae hwn yn ailddatblygiad gwerth £1.5 miliwn yn hen ysgol gynradd Cwm-gors yng Nghwm Tawe, yn agos i fferm wynt cymunedol Awel. Gallwch weld ffilm o “>ddigwyddiad cymunedol/Hinsawdd Cymru diweddar a gynhaliom yno ym mis Awst. Mae’r ddwy ffilm gan Mike Harrison sy’n byw’n lleol ac sydd wedi ennill dau Bafta Cymru – maen nhw mor hardd! Gallwch weld y newyddion diweddaraf yn cynnwys gosod ein pwmp gwres o’r ddaear ar ein tudalen Facebook benodedig
- Mae ein Swyddog Addysg, Jen James, wedi bod wrthi’n datblygu rhaglen ysgolion rhagorol – ‘Rhyfelwyr Ynni Ydyn Ni’ – gan weithio gydag ysgolion yn Sir Benfro, Casnewydd ac Abertawe. Gallwch weld fideo o sut mae Ysgol Gynradd Saundersfoot yn lleihau eu defnydd o ynni “>yma . Yr ysgol sy’n perfformio orau yng Nghymru yw Bro Ingli, a gallwch weld ei data ynni
Rhannu’r Dudalen