Swyddog Hwb y Gors

Swyddog Hwb y Gors – Disgrifiad Swydd

Pwy ydym ni:

Mae Awel Aman Tawe yn elusen yng Nghwm Aman uchaf a sefydlwyd yn 1998 gyda’r ddau amcan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol.  Rydym wedi datblygu’r ddau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru: Awel Coop (ein cwmni cydweithredol gwynt) ac Egni Co-op (ein cwmni cydweithredol solar).  Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys y rhaglen addysg i ysgolion Rhyfelwyr Ynni, trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy, rhoi cyngor effeithlonrwydd ynni, a chelfyddydau yn y gymuned.  Prynom hen ysgol gynradd Cwm-gors yn 2018 ac ar hyn o bryd rydym yn ei hail-ddatblygu yn ganolfan carbon isel ar gyfer addysg, menter a’r celfyddydau: Hwb y Gors.  Rhagwelwn y bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2025 a bydd y swydd Swyddog Hwb y Gors hon yn chwarae rhan allweddol yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer y lleoliad.

Crynodeb o’r Swydd

Bydd gennych ddealltwriaeth ac angerdd dros lansio, datblygu a thyfu Hwb y Gors, gan ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rôl.  Mae hon yn swydd heriol, tra boddhaus, ac er mwyn iddi lwyddo bydd angen ymrwymiad i’r gymuned leol ac i ddau bwrpas AAT sef mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol.  Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i greu amgylchedd sy’n gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiogel, ac yn creu cydbwysedd rhwng arolygaeth weithredu effeithlon a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Rolau a Chyfrifoldebau

Fel Swyddog Canolfan Hwb y Gors byddwch yn gyfrifol am:

Manyleb Person

 Hanfodol Dymunol
Profiad  
O leiaf 2 flynedd yn gweithio mewn amgylchedd gwasanaeth i gwsmeriaidx 
Sgiliau mathemategol da a phrofiad o drafod arian x
Profiad o gyflawni tasgau a dyletswyddau gweinyddol x
Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned a dealltwriaeth dda o amgylchedd y sector elusennaux  
Profiad o farchnata yn y cyfryngau digidol ac/neu ffisegol x
Profiad o reoli lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd x
Profiad o ddarparu gwasanaeth o safon uchel i ystod amrywiol o gwsmeriaid x
Profiad o ddefnyddio a chynnal offer a chyfarparx 
   
Gwybodaeth, Sgiliau a Galluoedd  
Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorolx  
Yn gallu gweithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bobl yn cynnwys gwirfoddolwyr a phobl sy’n agored i niwedx  
Sgiliau TGCh ‒ yn gallu defnyddio cronfeydd data, cyfryngau cymdeithasol a chyfrannu at gynnwys y we. x
Sgiliau datrys problemau da ac ymwybyddiaeth o asesiadau risgx  
Yn gallu bod yn flaengar a chanfod, blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau’n annibynnolx  
Yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm.x 
Rheolaeth amser a sgiliau trefnu dax 
Parodrwydd i gymryd perchnogaeth dros ddelio ag ymholiadau a chwynionx 
Siaradwr Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu.x 
   
Rhinweddau Personol Hanfodol Dymunol
Rhinweddau arweinyddiaeth x
Ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a pharch at eraillx  
Dealltwriaeth dda o’r materion cymdeithasol ac economaidd a wynebir gan y gymuned leolx  
Hyblygrwydd o ran oriau gwaith i weithio gyda’r hwyr ac ar y penwythnos.x  
Ymrwymiad i’r Ymgyrch Ras i Sero x
Parodrwydd i gyflawni hyfforddiant a datblygu personolx 

Hyfforddiant Angenrheidiol ‒ darperir hwn gan AAT

Mae’r swyddi yn agored i’r holl ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol, heb ystyried oed, anabledd, rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Y Broses Ymgeisio:

Rhaid i geisiadau gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Mae AAT yn fan arbennig i weithio ynddo ac mae’n bwysig ein bod yn deall yn glir pam rydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm a beth rydych chi’n teimlo y gallwch ei gyfrannu. Fel rhan o’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi disgrifiad llawn o’ch symbyliad, profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â’r disgwyliadau a esbonnir yn y fanyleb person a’r disgrifiad swydd. 

E-bostiwch eich cais at croeso@awel.coop. Rhowch Swyddog Hwb y Gors yn y llinell pwnc.

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025

Cyfweliadau:  12 Chwefror 2025

Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.

Rhannu’r Dudalen