Sut i osod solar mewn ysgolion….

Dyma rai o’r camau rydym yn eu dilyn nawr i osod solar o safon uchel, yn ddiogel, ar ysgolion Casnewydd yn ystod y tymor.

Gyda phob ysgol, rydym yn cynnal Cyfarfod Cychwyn Prosiect i gynllunio’r gosod – mae hwn yn cynnwys:

Rebecca Bearcroft (Ysgol Llys Malpas), Mathew Preece (Dirprwy Reolwr Ynni Cyngor Casnewydd, yn y canol), Ben Budding (Joju), Dan McCallum (Egni)
Ysgol Gynradd Eveswell, Egni, Cyngor Casnewydd a staff Joju

Yn y cyfarfod, rydym yn trafod ein Cynllun Camau Adeiladu sy’n disgrifio’r gwahanol agweddau fel mynediad, ble bydd ffensys a sgaffaldiau’n cael eu gosod, cynllun y paneli ar y to, amserau cyflenwadau, storio, diogelu plant (mae pob un o’n contractwyr wedi cael gwiriad DBS), adroddiadau asbestos ar adeiledd y to a rhediadau ceblau. Rydym yn cerdded o gwmpas y safle yn gwirio bod popeth yn ôl y disgwyl. Mae’r eitemau hyn a mwy, yn cael eu trafod yn fanwl.

Yn gynnar yn y bore ar ddechrau bob gosodiad, rydym yn cynnal Cyfarfod Sefydlu ar y Safle – mae hwn yn cynnwys yr holl gontractwyr sy’n gweithio ar yr ysgol, a’r staff uwch. Mae unrhyw faterion ar y safle, ac amseriadau, yn cael eu trafod i sicrhau diogelwch y safle.

Mark Smith, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Maendy, yn arwain y sesiwn Sefydlu ar y Safle, gyda Ben Budding, Rheolwr Joju, a’n contractwyr

Mae Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni, yn esbonio’r cam nesaf “Mae ein paneli’n cael eu storio mewn warws anferth yng Nghasnewydd ac yn dechrau cyrraedd.

Paneli’n cyrraedd Ysgol Gyfun Basaleg

Rydym yn eu cludo i’r man storio ar y safle ar dryciau pwmpio, ac wedyn mae telegodwr neu lifft siswrn yn eu codi i’r to.

Yna mae’r broses osod yn dechrau – gosodir rheiliau yn gyntaf ac wedyn mae’r paneli’n cael eu gosod yn sownd wrth y rhain.

Mae’r system drydanol fewnol yn cael ei chomisiynu yn y cwpwrdd/ystafell drydan – gall hyn fod yn eithaf cymhleth. Mae’r enghraifft hon yn Ysgol Gynradd Maesglas yn dangos y cysylltiad i’r system gyflenwi bresennol, ein mesurydd cynhyrchiant FiT, ein mesuryddion Rtone sy’n ein galluogi i fesur faint mae’r ysgol yn ei ddefnyddio o’r paneli solar, y ddyfais cyfyngu ar allforion (mae hon yn ofynnol gan y gweithredwr grid ar y safle hwn oherwydd gwendid seilwaith y grid yn yr ardal hon – felly ni ellir allforio mwy na 17kWp i’r grid o’n system 23kWp ar do’r ysgol). Mae hyn yn annhebygol o ddigwydd yn aml gan fydd y rhan fwyaf o’r pŵer yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol ar y safle yn hytrach na chael ei allforio.”

Offer Egni yn Ysgol Gynradd Maesglas

Ychwanegodd Dan McCallum, Cyfarwyddwr Egni “Yn ystod y broses osod, mae’r safleoedd yn cael eu monitro gan Oruchwyliwr Gwaith, Ben Whittle, o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Mae Ben yn osodwr profiadol ei hun – mae’n sicrhau bod yr ansawdd yn uchel ac yn rhoi cyngor defnyddiol. Mae staff Egni’n ymweld â’r safleoedd hefyd, ynghyd â Thîm Ynni Casnewydd. Mae gan Joju Oruchwyliwr Iechyd a Diogelwch llawn amser, Eric Couling, sy’n symud o gwmpas y safleoedd.

Ben Whittle yn Ysgol Uwchradd Casnewydd

Fel arfer mae angen cau’r trydan i lawr yn llwyr ar y safle am gyfnod cyn comisiynu – ac mae’n rhaid cydgysylltu â’r athrawon a TGCh/gweinyddion ar hyn, gan ei fod yn effeithio ar larymau tân, boeleri a systemau trydanol eraill – mae’n rhaid ystyried y rhain i gyd a rhoi rhybudd mewn rhai achosion. Rydym yn cau’r system i lawr y tu allan i oriau ysgol, weithiau dros y penwythnos, i leihau’r effaith ar yr ysgol.

Ond yn y pen draw, mae ein prosiectau’n edrych fel hyn!

Ysgol John Frost – rhan o’n gosodiad 230kw yno

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y gosodiadau newydd a fydd yn cychwyn yr wythnos nesaf yn Ysgol Gynradd Maerun, Ysgol Gynradd Llyswyry, Ysgol St Julian’s – a byddwn yn cynnal cyfarfodydd yn yr ysgolion i esbonio’r gwaith yn Ysgol Gynradd Maendy, Llys Malpas a Maerun!

+ rydym yn llawn cynnwrf wrth i ni gael y cyfarfod cychwynnol ar y Felodrom – rydym yn credu mai hwn fydd y prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru @ 500kw. Byddwn hyd yn oed yn cael craen i godi’r paneli! Mwy i ddilyn am hynny….”

Rhannu’r Dudalen