Rydym yn Rhyfelwyr Ynni Dengineers!

Diolch i Gronfa Pweru Cymunedau Younity Powering Communities Fund | Younity rydym wedi bod yn gweithio gyda disgyblion mewn dwy ysgol yng Nghasnewydd, Ysgol Gynradd Llanmartin ac Ysgol Gyfun Caerllion, ar y cyd â’r cerflunydd Ami Marsden o Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd a Sion Tomos Owen. Ein nod yw ysbrydoli disgyblion drwy weithgareddau ymwybyddiaeth o leihau ynni i ddod yn ddylunwyr Eco Gartrefi (gyda chardbord) neu ein hoff deitl – yn Dengineers!

Dengineers yn Ysgol Gynradd Llanmartin

Ar ôl ymweld ag Adran Beirianneg Prifysgol Caerdydd a chlywed gan beirianwyr a gwyddonwyr sy’n gweithio yn rheng flaen cynaliadwyedd, penderfynodd y disgyblion, er mwyn bod yn wirioneddol eco, y byddai’n rhaid i ni adeiladu tai sy’n defnyddio llai o danwydd ffosil, diogelu ac adfer natur, ac ymaddasu i newid hinsawdd.

Trwy chwarae gemau a gweithgareddau drama rhannom ein dysgu ac archwiliom syniadau a chysyniadau newydd.

Creom gyfarwyddiadau cynllunio a thrwy ystyried a gwerthuso syniadau ein gilydd, daethom yn beirianwyr tai eco, fel y gallwch weld isod: o’r syniad i’r realiti!

Dyma ragor o’u tai gorffenedig:

Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

Dengineers yn Ysgol Gyfun Caerllion

Rydyn mi mewn Argyfwng Hinsawdd!

Yn Ysgol Gyfun Caerllion, cyhoeddodd ein cath masgot Dipsy ein bod mewn argyfwng hinsawdd. Ar ôl dysgu mwy am yr argyfwng hinsawdd a natur, gofynnom sut gallwn ni helpu Dipsy?

Gan weithio gydag Ami Marsden, aethom ar daith gynllunio gan wneud cysgodfeydd i’n cadw’n ddiogel rhag stormydd, a buom yn dilyn llwybr natur, defnyddio’r haul i bweru dyfeisiau solar ac yn gwneud gwesty bygiau!

Y tro hwn, sylweddolwyd bod gwaith tîm yn bwysig wrth i ni adeiladu tŷ y gallem fynd i mewn iddo, a derbyniodd y disgyblion heriau tîm i’w wneud yn fwy eco

A allwch chi weld sut gwnaethon ni ddefnyddio llai o danwydd ffosil, amddiffyn ac adfer natur, ac ymaddasu i newid hinsawdd?

Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Tŷ adar
  • Bocsys ffenestr
  • Gwesty bygiau
  • Man gwefru trydan i geir
  • Tiwbiau gwres solar
  • Tyrbinau gwynt

Rhyfelwr Ynni Dengineer

Roeddem eisiau rhannu ein neges, felly gweithiom gyda’r artist Sion Tomos Owen i ddylunio ein Rhyfelwr Ynni Dengineer ninnau. Mae Sion wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar draws De Cymru i greu Rhyfelwyr Ynni sy’n ymladd yn erbyn tanwydd ffosil gydag ynni adnewyddadwy!

Dyluniodd disgyblion Caerllion y Dengineer mwyaf unigryw ar sail eu taith Dengineers. A allwch chi weld y cennau chwilen ddu solar, y safnau ailgylchu mathru, y dwylo chwalu sbwriel, craidd y gwesty bygiau, y bysedd saethu hadau blodau a llawer iawn mwy!

Hoffech chi adeiladu eich Tŷ Eco?

Os hoffech ffeindio allan Sut i Adeiladu Tŷ Eco, defnyddiwch ein hadnodd a grëwyd gan Sion Tomos Owen, Ysgol Gyfun Caerllion ac Ami Marsden – cliciwch ar y ddolen isod. Torrwch allan y templedi ac adeiladu eich Tŷ Eco.

How to build an Eco House.pdf

How to build an Eco House cym.pdf

Cardiau Dengineer

Gwnewch eich tŷ yn fwy eco drwy ddefnyddio ein Cardiau Dengineer. Trefnwch y cardiau fesul categori, fesul pwysigrwydd yr eco nodwedd, fesul yr effaith ar yr amgylchedd neu eich hoff eco nodwedd.

Dengineers Cards 4 to a page Cymraeg.pdf

Lliwiwch Ryfelwr Ynni

Lliwiwch ein Rhyfelwr Ynni a thicio’r nodweddion a ddewiswyd gan ddisgyblion Caerllion.

A allwch chi ffeindio?

Rhannu’r Dudalen