Rydym yn Rhyfelwyr Ynni Bwyd!

Prosiect gan Awel Aman Tawe, Cadernid Ffynnon a Phlentyn y Ddaear yn gweithio gydag Ysgol Cilgerran ac Ysgol Eglwyswrw diolch i gyllid gan WWF Cymru.

Trosolwg o’r Prosiect

Yr haf hwn aeth y Rhyfelwyr Ynni i ddwy ysgol yng ngogledd Sir Benfro, Ysgol Cilgerran ac Ysgol Eglwyswrw, ar ymgyrch i ffeindio allan am y cysylltiadau rhwng bwyd, ynni a newid hinsawdd – a chael llawer o hwyl yn dysgu am dyfu bwyd yn y gymuned.

Beth wnaethom ni?

Buom yn gweithio gyda’r cynllun tyfu cymunedol, Cadernid Cymunedol Ffynnon, a’r ysgol goedwig, Plentyn y Ddaear. Treuliodd y disgyblion ddeg wythnos ar y prosiect Ryfelwyr Ynni Bwyd yn gweithio yn yr awyr agored gyda COTE, yn y Cae Ffa ac yn Ffrwythau a Chnau yn plannu, tyfu, chwynnu a bwyta. A gyda Rhyfelwyr Ynni ac Energy Sparks, buont yn dysgu am filltiroedd bwyd a gwastraff bwyd, gan greu eu safleoedd tyfu yn yr ysgol, dysgu sut i ddefnyddio bwyd a phlanhigion ar gyfer llifo naturiol gyda’r artist Sian Lester, rhannu eu dysgu trwy wneud Gerddi Cymunedol mewn Bocs gyda’u deunydd wedi’i lifo, deunyddiau wedi ailgylchu a naturiol, a dysgu sgiliau adeiladu gyda’r artist a’r cerflunydd Ami Marsden.

Gyda phwy fuon ni’n gweithio?

Diolch i Gronfa Pweru Cymunedau Younity, buom yn gweithio gyda’n harbenigwr Dengineers, Ami Marsden, i adeiladu ein gerddi bach bendigedig.

Diolch i gyllid Wythnos Fawr Werdd WWF Cymru gweithiom gyda Sian Lester, yr artist tecstilau o Sir Benfro, a arweiniodd y disgyblion wrth dwrio am fwyd yn nhiroedd yr ysgol a dangos i’r disgyblion sut i lifo deunydd yn naturiol.

Y Rhyfelwyr Ynni yn taro eto

Cafodd y disgyblion gyfle i wella’u cysylltiadau â natur a chymuned, datblygu eu hymwybyddiaeth o darddiad y bwyd a fwytawn, dysgu am ei effaith ar yr amgylchedd, ac ystyried sut i ddefnyddio planhigion mewn gwahanol ffyrdd trwy weithio mewn timau, datrys problemau, chwarae gemau a defnyddio llond gwlad o greadigrwydd!

Daethant yn Rhyfelwyr Ynni!

Cafodd y disgyblion amser gwych yn adeiladu a chreu eu bocsys a meddwl am sut i ddefnyddio’r ffabrigau wedi’u llifo a’r deunyddiau wedi’u hailgylchu a naturiol.

Dyma rai o’n Gerddi Cymunedol mewn Bocs.

Helfa Drysor

Cawsom lawer o hwyl yn herio ein gilydd i ffeindio eitemau oedd yn hanfodol i’n gerddi cymunedol!

Bwriwch olwg ar y lluniau. A allwch chi ffeindio:

Roedd y disgyblion mor greadigol nes iddynt wneud gwenyn ar gyfer y cychod gwenyn a thorchau a bêls gwair ar gyfer eu siediau hyd yn oed.

Creodd y disgyblion helfa drysor ar gyfer y ffabrig wedi’i lifo. Edrychwch ar y lliwiau yn ofalus. Sawl un gallwch chi ei ffeindio?  

Beth oedd yr effaith?

Tyfu yn yr ysgol

Cafodd y disgyblion eu hysbrydoli gan eu gweithgareddau yn y Cae Ffa i helpu gyda thyfu bwyd yn nhiroedd yr ysgol a recriwtiwyd gwirfoddolwyr i helpu’r disgyblion.

Gwneud baneri

Crynhodd y disgyblion eu dysgu drwy wneud baneri i rannu’r pethau oedd yn wir bwysig iddyn nhw a gwelont fod ganddynt lawer o negeseuon i’w rhannu

Arddangos eu Gerddi Cymunedol

Arddangosodd y disgyblion eu dysgu mewn digwyddiadau cymunedol yn y Cae Ffa a Ffrwythau a Chnau gan ysbrydoli pobl eraill i adeiladu gerddi mewn bocs, ysgogi sgyrsiau ynglŷn â phwysigrwydd dod yn dyfwyr bwyd, a rhannu eu neges i leihau gwastraff bwyd a thyfu eich bwyd eich hun!

Rhannu’r Dudalen