Rheolwr Caffi Hwb y Gors
Disgrifiad Swydd
- Cyflogwr: Awel Aman Tawe
- Yn adrodd wrth: Rheolwr Canolfan Hwb y Gors
- Cyflog: £30,000 y flwyddyn
- Oriau: Swydd amser llawn 37.5 awr yr wythnos (rota hyblyg sy’n cydweddu ag anghenion y ganolfan)
- Cyfnod y Contract: 3 blynedd. Gyda’r posibilrwydd o’i estyn yn amodol ar adolygiad.
- Hawl i wyliau: 5 diwrnod o wyliau’r flwyddyn ynghyd â gwyliau banc ar gyfer swydd amser llawn.
- Cynllun Pensiwn Moesegol gyda chyfraniad cyflog o 6.5% a swm cyfatebol gan AAT.
Pwy ydym ni:
Mae Awel Aman Tawe yn elusen yng Nghwm Aman uchaf a sefydlwyd yn 1998 gyda’r dddau amcan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol. Rydym wedi datblygu’r ddau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru: Awel Coop (ein cwmni cydweithredol gwynt) ac Egni Co-op (ein cwmni cydweithredol solar). Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys y rhaglen addysg i ysgolion Rhyfelwyr Ynni, trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy, rhoi cyngor effeithlonrwydd ynni, a chelfyddydau cymunedol. Prynom hen ysgol gynradd Cwm-gors yn 2018 ac ar hyn o bryd rydym yn ei hail-ddatblygu yn Ganolfan carbon isel ar gyfer addysg, menter a’r celfyddyau: Hwb y Gors. Rhagwelwn y bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2025 a bydd Rheolwr y Caffi yn chwarae rhan allweddol yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer y lleoliad.
Crynodeb o’r Swydd
Fel y cogydd, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn ac angerdd dros lansio, datblygu a thyfu ein Caffi llysieuol a fegan yn Hwb y Gors, gan ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rôl. Byddwch yn brofiadol ac yn ymrwymedig i weini bwyd maethlon sy’n adlewyrchu ysbryd Hwb y Gors. Byddwch yn dda am ddatrys problemau a bydd eich trylwyredd cyn gryfed â’ch gwerthfawrogiad o’r darlun mawr. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych fel y gallwch ryngweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys gwirfoddolwyr, ac ar yr un pryd byddwch yn gallu blaenoriaethu anghenion y Ganolfan o fewn y sefydliad yn barhaus. Mae hon yn swydd heriol, tra boddhaus, ac er mwyn iddi lwyddo bydd angen ymrwymiad i’r gymuned leol ac i ddau bwrpas AAT sef mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cadernid cymunedol. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y ganolfan yn hunangynhaliol o fewn 3 blynedd ac yn sero net erbyn 2030. Bydd y caffi yn chwarae rhan annatod wrth gyrraedd y nodau hyn.
Y Weledigaeth ar gyfer y Caffi yn Hwb y Gors
Hoffem weld ein caffi (sydd heb ei enwi eto) yn gwasanaethu’r gymuned trwy gyflenwi bwydydd llysieuol/fegan iach, blasus. Rhagwelwn y bydd ein caffi yn dod yn fan cyfarfod pwysig i bawb yng nghymuned Cwm-gors, i ymwelwyr o bellach i ffwrdd, ac i’r gymuned o artistiaid, addysgwyr a busnesau bach yn y Ganolfan.
Yn allweddol i gyflenwi’r gwasanaeth yn y ganolfan fydd cyd-drefnu a gweithio gyda gwirfoddolwyr y ganolfan a swyddogion Hwb, a fydd yn darparu gwasanaeth gweini minimol (lluniaeth ysgafn) pan nad yw Rheolwr y Caffi yn bresennol, ynghyd ag ymgysylltu â gwirfoddolwyr ein gardd gymunedol i ddefnyddio’u cynnyrch.
Mae hyblygrwydd o ran oriau gwaith yn hanfodol. Rhagwelwn y bydd y caffi ar agor yn ystod y dydd a hyd at ddwy noswaith yr wythnos yn cynnwys dydd Gwener.
Rydym yn chwilio am berson arbennig a all weithio gyda ni i wireddu’r weledigaeth hon.
Rolau a Chyfrifoldebau
Fel Rheolwr y Caffi byddwch yn:
- Rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd y caffi.
- Creu, coginio a chyflwyno bwydlen lysieuol a fegan gyffrous sy’n seiliedig ar natur dymhorol y cynnyrch a dewisiadau’r cwsmeriaid.
- Cynnal amgylchedd deniadol a glân.
- Meithrin y berthynas gyda chwsmeriaid i ddatblygu teyrngarwch, gan droi ein caffi yn hoff gyrchfan lleol.
- Rheoli stoc a gosod archebion.
- Prisio eitemau a dadansoddi gwerthiant trwy gynnal refeniwiau a threuliau yn ddyddiol, wythnosol a misol.
- Helpu i wella proffidioldeb er mwyn sicrhau bod y caffi yn hunangynhaliol erbyn blwyddyn 3, yn cynnwys yr holl gostau staffio sy’n gysylltiedig â’r caffi.
- Bod yn atebol am y Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd, Diogelwch Bwyd a Hylendid, rheoli alergenau, Iechyd a Diogelwch, rheoliadau cyfreithiol, a pholisïau amgylcheddol, a bod yn gyfrifol am gynnal yr holl hylendid bwyd yn y caffi.
- Cysylltu â swyddog iechyd y cyhoedd.
- Hyfforddi a goruchwylio gwirfoddolwyr wrth baratoi diodydd ac i ddefnyddio offer yn briodol.
- Cydweithio gyda gwirfoddolwyr i baratoi pryd bwyd cymunedol misol a digwyddiadau eraill.
- Creu digwyddiadau i ddathlu diwrnodau penodol e.e. Dydd Sain Ffolant, Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi.
- Creu awyrgylch sy’n hwyluso ymgysylltu â’r gymuned – e.e. sesiynau iaith anffurfiol yn Gymraeg/Sbaeneg/Ffrangeg.
- Datrys materion a chynghori gwirfoddolwyr ar y ffordd orau o ddatrys materion gyda chleientiaid a darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
- Bod yn ddaliwr allweddi ar gyfer y ganolfan.
Manyleb Person
Hanfodol | Dymunol | |
Profiad | ||
2 flynedd o leiaf yn gweithio mewn allfa fwyd | x | |
2 flynedd o leiaf o brofiad o goginio bwyd llysieuol/fegan o safon uchel mewn lleoliad masnachol | x | |
Sgiliau mathemategol da a phrofiad o drafod arian | x | |
Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned a dealltwriaeth dda o amgylchedd y sector elusennau | x | |
Profiad o reoli staff ac/neu wirfoddolwyr | x | |
Profiad ac angerdd dros fwyd a datblygu bwydlenni | x | |
Profiad o lunio a rheoli cyllidebau | x | |
Gwybodaeth, Sgiliau a Galluoedd | ||
Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid rhagorol | x | |
Yn gallu gweithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bobl yn cynnwys gwirfoddolwyr a phobl sy’n agored i niwed | x | |
Sgiliau TGCh ‒ yn gallu defnyddio cronfeydd data, cyfryngau cymdeithasol a chyfrannu at gynnwys y we | x | |
Sgiliau datrys problemau da ac ymwybyddiaeth o asesiadau risg | x | |
Yn gallu bod yn flaengar a chanfod, blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau’n annibynnol | x | |
Ymrwymiad i herio ymddygiad gwahaniaethol neu amharchus | x | |
Yn gallu cyfrannu at bennu targedau a chynllunio datblygiad yn strategol | x | |
Yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm. | x | |
Siaradwr Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu. | x | |
Rhinweddau Personol | Hanfodol | Dymunol |
Rhinweddau arweinyddiaeth | x | |
Ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a pharch at eraill | x | |
Dealltwriaeth dda o’r materion cymdeithasol ac economaidd a wynebir gan y gymuned leol | x | |
Hyblygrwydd o ran oriau gwaith yn cynnwys gyda’r hwyr ac ar y penwythnos. | x | |
Ymrwymiad i’r Ymgyrch Ras i Sero | x | |
Parodrwydd i gyflawni hyfforddiant a datblygu personol | x |
Hyfforddiant Angenrheidiol ‒ darperir hwn gan Awel Aman Tawe
- Diogelu Grŵp B/Lefel 2
- Goruchwyliwr Dynodedig Mangre (DPS)
- Diogelwch Bwyd a Hylendid Lefel 3
- Hyfforddiant Terfysgaeth ACT
- Ymwybyddiaeth o Alergenau
- Iechyd a Diogelwch
- GDPR
- Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
- Ymwybyddiaeth o Anabledd
- Codi a Chario
- Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Ymwybyddiaeth DSE
- Diffibrilio
- Larymau toiledau hygyrch
Mae’r swyddi yn agored i’r holl ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol, heb ystyried oed, anabledd, rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.
Y Broses Ymgeisio:
Rhaid i geisiadau gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Mae AAT yn fan arbennig i weithio ynddo ac mae’n bwysig ein bod yn deall yn glir pam rydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm a beth rydych chi’n teimlo y gallwch ei gyfrannu. Fel rhan o’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi disgrifiad llawn o’ch symbyliad, profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â’r disgwyliadau a esbonnir yn y fanyleb person a’r disgrifiad swydd
E-bostiwch eich cais at croeso@awel.coop. Rhowch Rheolwr Caffi Hwb y Gors yn y llinell pwnc.
Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025
Cyfweliadau: 11 Chwefror 2025
Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.