Yn Awel Aman Tawe, rydym wedi credu erioed bod gweithredu lleol yn gallu sbarduno newid byd-eang. Fel elusen ynni cymunedol, rydym yn defnyddio incwm o’n fferm wynt i ariannu prosiectau sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd ac adeiladu gwydnwch – o ynni adnewyddadwy i addysg a chaffis trwsio. Yr wythnos ddiwethaf, ymunom ag Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd i gynnal Rheoli Hinsawdd COP30, digwyddiad a ddaeth ag ysgolion, gwyddonwyr, busnesau a lleisiau cymunedol at ei gilydd i rannu syniadau am ddyfodol cynaliadwy.
Beth yw Newid Hinsawdd?
Eglurodd Dr Jennifer Rudd y wyddoniaeth y tu ôl i newid hinsawdd, gan esbonio sut mae gweithgareddau dynion – yn enwedig llosgi tanwyddau ffosil ers y 1850au – wedi gwneud i’r tymheredd godi’n fyd-eang. A rhoddodd gip i ni ar sut olwg sydd ar garbon deuocsid a methan ar ffurf moleciwlau! Y Casgliad? Rydym bob un yn rhannu’r cyfrifoldeb ac mae angen i bob un ohonom wneud newidiadau mewn trafnidiaeth, gwastraff bwyd, defnyddio ynni a mwy.

Beth yw COP30?
Rhannodd Mrs Taylor a Thîm Gwyrdd Ysgol Pennar eu dull ysbrydoledig: rhedeg digwyddiadau COP yn yr ysgol! Mae pob dosbarth yn cyflwyno mater amgylcheddol maent eisiau ei wella ac eleni, cymeradwywyd bob syniad.
Roedd rhai o’u syniadau gwych yn cynnwys:
- Defnyddio afalau a dyfwyd yn yr ysgol ar gyfer y gymuned leol
- Gwneud bwydwyr adar a phlannu mwy o flodau
- Lleihau’r plastig mewn bocsys bwyd ac yn y môr
- Ailbwrpasu ac ailgylchu i helpu gyda chostau byw
- Dechrau sesiynau natur fel y gall teuluoedd rhannu’r dysgu
Mae eu harwyddair yn crynhoi’r cyfan: Newidiadau Bach, Gwahaniaethau Mawr!

Safbwynt Byd-eang ar Wastraff Bwyd
Cawsom ein hatgoffa gan Perpetua Ifiemor nad mater lleol yn unig yw gwastraff bwyd – mae’n fater byd-eang. Mae hi’n gweithio’n ddiflino yn Nigeria ac yng Nghymru i leihau gwastraff a chodi ymwybyddiaeth. Mae ei brwdfrydedd dros fwyd a thegwch yn ei gwneud yn rhyfelwr bwyd go iawn!
Lleisiau Cymunedol: Beth Sydd o’r Pwys Mwyaf?
Gofynnom ar Padlet: “Pa fater hinsawdd yn eich cymuned chi dylai arweinwyr y byd ei drafod?”
Roedd yr atebion yn rymus:
Trafnidiaeth, ynni, gwastraff, datgoedwigo, ailgylchu, addysg hinsawdd, gor-brynwriaeth, ynni adnewyddadwy a llifogydd.
Mae’n amlwg bod yr heriau’n amrywiol – ond felly mae’r atebion hefyd.
Storïau Gobaith a Gweithredu
Rhoddodd Marten Lewis o Bluestone obaith i ni gyda’u hymrwymiad i ddod yn sero net erbyn 2040. Bluestone yw’r cyrchfan twristiaeth di-danwydd ffosil cyntaf yn y DU. Maent yn mynd i’r afael â gwastraff bwyd, gan ei fesur bob awr, ac maent wedi ei dorri o 20% yn barod. Maen nhw hefyd wedi mabwysiadu’r economi cylchol – prynu llai, uwchgylchu a chefnogi elusennau. Maent yn sefydliad gwirioneddol ragorol.

Atebion Hinsawdd Arloesol
Helpu Pysgod i Fudo: Dangosodd Dr. Guglielmo Sonnino Sorisio sut mae gwyddonwyr yn adeiladu grisiau i helpu pysgod i ddygymod â threfoli a llygredd.
Ysgol Gynradd Saundersfoot: Astudiodd y myfyrwyr sut mae lefelau’r môr yn codi a buont yn cydweithio gydag artistiaid i greu gosodiadau a ysbrydolwyd gan fioamrywiaeth.

Arbed Ynni mewn Ysgolion: Dysgodd Nikki Webb o Energy Sparks i ni sut i ddefnyddio graffiau ynni i nodi gwastraff. Mae ysgolion Sir Benfro yn arwain y ffordd – torrodd Ysgol Harri Tudor eu defnydd o drydan yn ystod y gwyliau o 33% (yn yr haf) a 20% (hanner tymor yr hydref), gan arbed £3,750 dros y ddau gyfnod gwyliau!

Meddyliau wrth Gloi: Syniadau ar gyfer Newid
Gorffennom drwy rannu syniadau ar sut i ymladd newid hinsawdd:
Gerddi cymunedol, bwydwyr adar, eco-bwyllgorau mewn ysgolion, bysiau trydan, lleihau plastig, paneli solar, diwrnodau diffodd y pŵer a mwy.
Galwad i Weithredu
Mae newid hinsawdd yn her fyd-eang, ond mae gweithredoedd lleol yn cyfrif.
Beth yw’r un newid y gallwch chi ei wneud heddiw – gartref, yn yr ysgol, neu yn eich cymuned?
Rhannwch eich syniadau a daliwn ati i gynnal y sgwrs!