Prosiect ynni adnewyddadwy yn cyrraedd y targed o £2 filiwn mewn pryd i lansiad Wythnos Hinsawdd Cymru

Mae Egni Co-op, y sefydliad cymunedol dielw Cymreig sy’n darparu gosodiadau paneli solar, wedi cyrraedd ei darged o £2 filiwn mewn cyfranddaliadau ar ôl buddsoddiad terfynol o £28,000 gan y Sefydliad Cyfiawnder Amgylcheddol. Ar hyn o bryd, mae paneli solar Egni, sydd wedi’u gosod ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol ar draws Cymru, yn lleihau allyriadau carbon o 1,000 o dunelli bob blwyddyn ac yn arbed £88,000 y flwyddyn mewn costau trydan. Hwn yw’r prosiect mwyaf o ran gosod solar ar doeon yn hanes Cymru.

Manteisiodd dros 1,000 o bobl a sefydliadau ar gynnig cyfranddaliadau cymunedol Egni, ac mae’r newyddion bod y targed wedi’i gyrraedd yn llwyddiannus wedi dod ar drothwy Wythnos Hinsawdd Cymru a gynhelir rhwng 2 a 6 Tachwedd.

“Mae pobl yn awyddus iawn i weld gweithredu gweladwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac rydym mor falch bod gennym fwy na 30 o ysgolion, a llawer o adeiladau eraill, sydd â phaneli solar ar eu toeon,” meddai Dan McCallum, Cyfarwyddwr Egni. “Roedd yr ymateb mor wych nes i ni benderfynu estyn ein cynnig cyfranddaliadau i £3 miliwn – ar gyfradd llog o 4% o hyd. Gallwch ymuno ag Egni am gyn lleied â £50 – mae’n fuddsoddiad da ac yn ffordd o helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Canolfan Hamdden Trimsaran

Bu’r tîm y tu ôl i Egni Co-op yn gyfrifol hefyd am gyflwyno’r fferm wynt gymunedol 4.7-megawat arobryn, ger Abertawe, Awel Co-op, a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Yn ei flwyddyn gyntaf, rhagorodd y prosiect ar ei ragolwg o ran cynhyrchiant egni, gan gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi anghenion blynyddol 3,262 o gartrefi, ac arbed 3,328 o dunelli o allyriadau CO2. Mae ei gapasiti wedi dyblu ers hynny.

Fel sector sy’n ehangu’n gyflym, mae ynni adnewyddadwy bellach yn darparu dros draean o gyfanswm y cynhyrchiant ynni o gwmpas y byd, gyda chapasiti o 2,537 Gigawat. Erbyn hyn, mae buddsoddiadau mewn adnewyddion yn cyflwyno enillion llawer gwell na thanwyddau ffosil ar draws y DU, yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ymweld ag Awel gyda’n haelodau, Ysgol y Bedol

Meddai cyfarwyddwr gweithredol y Sefydliad Cyfiawnder Amgylcheddol, Steve Trent: “Mae prosiectau fel y rhain, sy’n perthyn i’r cyfranddalwyr ar ffurf cwmni cydweithredol, yn darparu math cynaliadwy o ynni sydd nid yn unig yn ymladd yn erbyn newid hinsawdd ond sydd hefyd yn rhoi’r elw nôl i’r gymuned leol. Gall ynni adnewyddadwy chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, ac mae’n hanfodol bod hyn yn digwydd. Mae Dan ac aelodau’r gymuned wedi dangos arweinyddiaeth a phenderfyniad ar y lefel leol, nad yw’n bodoli yn rhy aml gan ein gwleidyddion ar raddfa genedlaethol. Mae EJF yn falch o fuddsoddi yn y gwaith hwn.”

Gaynor Richards a Tony Potts, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot gyda’n gosodwyr Ice Solar

Fel rhan o ymrwymiad EJF i liniaru’r newid yn yr hinsawdd a gwarchod bywyd gwyllt, mae’r elusen wedi buddsoddi yn Awel Co-op hefyd, ac mae’n berchen ar goetir hynafol yn Sir Benfro, De Cymru.

Nodiadau i’r golygyddion

Egni Co-op

Mae Egni Co-op yn datblygu ynni solar ar doeon yng Nghymru. Rydyn ni’n cynhyrchu ynni glân, gan alluogi ein safleoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd a dod yn fwy sefydlog yn ariannol. Trwy ein cynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol, rydyn ni hefyd yn rhoi cyfle i bobl fuddsoddi eu harian mewn dyfodol mwy cynaliadwy a chael cyfradd adenillion deg.

Cyswllt: Dan McCallum, 07590 848818

Mae’r Sefydliad Cyfiawnder Amgylcheddol yn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n gweithio i ddiogelu’r amgylchedd ac amddiffyn hawliau dynol. Mae’r EJF yn elusen a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr (1088128). www.ejfoundation.org

Cyswllt: Daisy Brickhill, Rheolwr Cyfathrebu EJF E-bost: daisy.brickhill@ejfundation.org Ffôn: 07396104874

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni.   Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

Cyswllt: E-bost: enquiries@energyservice.wales  Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen