Prosiect solar Casnewydd yn ennill gwobr ynni cymunedol

Mae prosiect solar ar doeon, sy’n cynnwys 27 o adeiladau ar draws Casnewydd, wedi ennill gwobr Alan Clark am ynni lleol/cymunedol yng Ngwobrau Solar & Storage Live eleni.

Mae’r Gwobrau Solar & Storage Live blynyddol yn cydnabod y prosiectau solar gorau yn y DU ac yn rhyngwladol yn y sectorau masnachol, preswyl a chymunedol.

Hwyluswyd y prosiect gan Gyngor Dinas Casnewydd drwy gyllid grant ar gyfer datblygu, ac astudiaeth ddichonoldeb fanwl gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Rheolwr y prosiect oedd y sefydliad cymunedol, Egni Co-op, ac mae wedi gosod dros 6,000 o baneli solar ar adeiladau’r cyngor ar draws Casnewydd, yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Mae’n osodiad o dros 2MW, sef y prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae Egni wedi codi dros £2 filiwn gan dros 1,000 o bobl a sefydliadau drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Derbyniodd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru fenthyciad o £2.12m gan Gronfa Ynni Llywodraeth Leol Cymru – a reolir gan Fanc Datblygu Cymru – i ariannu prosiectau cyfredol ar draws Cymru. 

Wrth dderbyn y Wobr, dywedodd Dan McCallum, Cyfarwyddwr Egni Co-op: “Mae hwn wedi bod yn brosiect partneriaeth anhygoel. Roedd staff a disgyblion ysgolion yng Nghasnewydd yn hanfodol hefyd ar gyfer sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Casnewydd oedd y Cyngor cyntaf i weithio gyda ni ac mae’r ymrwymiad cynnar hwnnw wedi ein galluogi i ehangu ar draws Cymru ers hynny.”

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Hoffwn longyfarch Egni a Chyngor Dinas Casnewydd am eu llwyddiant yng Ngwobrau Solar & Storage Live eleni.

“Mae prosiectau ynni lleol fel y rhain yn chwarae rhan hollbwysig yn ein taith tuag at ddatgarboneiddio a gwneud Cymru’n genedl sero-net, ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi prosiectau fel y rhain drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

“Fel Llywodraeth, rydym wedi hyrwyddo buddsoddiad gwerth £27m i helpu’r sector cyhoeddus a chymunedau i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni. Hyd yma, mae’r prosiectau wedi creu 26MW mewn capasiti ynni adnewyddadwy – digon o ynni i bweru mwy nag 8,000 o gartrefi.

“Mae hyn yn dystiolaeth glir o’n hymrwymiad i gyflawni ein polisi o berchenogaeth leol ar ynni a gynhyrchir yn lleol.

Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gosod targed o ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030, gyda phaneli solar yn cynhyrchu cyfanswm cyfunol o 1,973,000 o unedau o drydan adnewyddadwy glân y flwyddyn, a’r rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle.

Meddai’r Cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy yng Nghyngor Dinas Casnewydd: “Rydym yn falch dros ben bod ein partneriaeth wedi cael cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol drwy ennill y wobr hon. Mae ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn elfen allweddol o’n haddewid i adeiladu Casnewydd well, a bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan yr holl safleoedd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyrraedd yr uchelgais hwnnw.”

Roedd Owen Callender o raglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru wedi rhyfeddu: “Mae ein gwaith yn cefnogi sefydliadau cymunedol yng Nghymru yn awgrymu bod yna awydd cryf am newid cynaliadwy, ac mae’n galonogol gweld Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gydag Egni Co-op i arwain drwy esiampl a phrofi bod y dyfodol yn bosibl yn barod.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Egni Coop

Mae Egni Co-op yn fudiad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru.   Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Mae’r tîm y tu ôl i Egni Co-op hefyd wedi sefydlu’r cwmni cydweithredol arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd yn Ion 2017. Cafodd ei hariannu drwy fenthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.  Cafodd ei hariannu drwy fenthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Co-op wobr y Prosiect Ynni Adnewyddadwy Rhagorol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ragfyr 2019 a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Gellir gweld ffilm ddiweddar gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, am Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yma.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818.

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r Gwasanaeth Ynni yn helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice

Ar gyfer Cyngor Casnewydd

public.relations@newport.gov.uk

01633 656656 neu 01633 210461

www.newport.gov.uk

Dilynwch:

@CyngorCasnewydd

@NewportCouncil

facebook.com/cyngordinascasnewydd

facebook.com/NewportCityCouncil

Rhannu’r Dudalen