Partneriaeth Solar Gymreig ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr y DU

Mae prosiect partneriaeth solar Cymreig yn dathlu ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Solar UK mawr ei bri.

Mae Egni Co-op wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru i osod dros 2MW o solar ar doeon yng Nghasnewydd yn 2020.

Mae’r bartneriaeth wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Ynni Cymunedol/Lleol yn y Gwobrau Solar and Storage Live 2020

https://www.terrapinn.com/exhibition/solar-storage-live/awards-shortlist.stm

Mae pob ysgol a gymerodd rhan yn y rhaglen yn derbyn £500 mewn cyfranddaliadau am ddim yn y cwmni cydweithredol ac mae Egni yn datblygu rhaglen addysgol ar weithredu ar newid hinsawdd ac entrepreneuriaeth cwmnïau cydweithredol.

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Meddai Rosie Gillam, cyd-gyfarwyddwr Egni Co-op: “Cyngor Dinas Casnewydd oedd yr awdurdod lleol cyntaf i ofyn i ni osod solar ar eu safleoedd a bu hyn o gymorth mawr i ni wrth fwrw ymlaen i osod paneli gyda chynghorau Sir Benfro ac Abertawe. Cawsom gefnogaeth wych hefyd gan ein gosodwyr yng Nghasnewydd, Joju Solar ac Ice Solar Cyf.

Ysgol Gynradd Eveswell, Egni, Cyngor Casnewydd a staff Joju

Rydym wedi gosod paneli ar 27 o adeiladau yng Nghasnewydd. Mae ein partneriaid uchod, a hefyd yr ysgolion, staff a’r disgyblion wedi chwarae rhan allweddol yn helpu i wneud i’r prosiect hwn ddigwydd. Mae cefnogaeth Casnewydd wedi ein galluogi i ehangu a nawr rydym wedi gosod bron 4MWp ar adeiladau cymunedol, ysgolion a busnesau ledled Cymru. Mae’r paneli solar yn arbed £92k/y flwyddyn mewn costau trydan i’n safleoedd ac yn lleihau allyriadau carbon yng Nghymru o tua 1,000t/y flwyddyn.

Rosie Gillam yn Ysgol Uwchradd Llyswyry

Dywedodd yr aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies: “Mae ein huchelgais o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn ddaliad allweddol yn ein haddewid i adeiladu Casnewydd well, a bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan y safleoedd hyn yn gam cadarnhaol tuag at fodloni’r uchelgais hwnnw. Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi bod ein safleoedd solar wedi cynhyrchu mwy nag 1GWh o drydan adnewyddadwy erbyn diwedd Hydref – digon i gyflenwi 340 o gartrefi am flwyddyn.”

Meddai Jim Cardy, Uwch Reolwr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o fenter gymdeithasol yn gweithio’n agos gydag awdurdod lleol partner yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Rheiliau’n barod ar gyfer gosod paneli solar yn Ysgol John Frost

Roedd Owen Callender o raglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru wedi rhyfeddu: “Mae gwylio’r ffilm drôn o’r solar ar doeon yn cael ei osod ar y Felodrom Cenedlaethol yn syfrdanol. Mae ein gwaith yn cefnogi sefydliadau cymunedol yng Nghymru yn awgrymu bod yna awydd cryf am newid cynaliadwy, ac mae’n galonogol gweld Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gydag Egni Co-op i arwain drwy esiampl a phrofi bod y dyfodol yn bosibl yn barod.”

Rebecca Bearcroft (Ysgol Malpas Court), Mathew Preece (Dirprwy Reolwr Ynni Cyngor Casnewydd, canol), Ben Budding (Joju), Dan McCallum (Egni)

Mae hon yn ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison ar y prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae Egni wedi codi dros £2 filiwn hyd yma ar ffurf cynnig cyfranddaliadau cymunedol gan dros 1,000 o bobl a sefydliadau. Rydym hefyd wedi sicrhau benthyciad o £2.12m gan Fanc Datblygu Cymru i ariannu’r gosodiadau sydd yn mynd yn eu blaen o hyd. Dyma’r rhaglen fwyaf o osod solar ar doeon yn hanes Cymru www.egni.coop  

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Egni Coop

Mae Egni Co-op yn fudiad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardun yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Mae’r tîm y tu ôl i Egni Co-op hefyd wedi sefydlu’r cwmni cydweithredol arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd yn Ion 2017. Cafodd ei hariannu drwy fenthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Co-op wobr y Prosiect Ynni Adnewyddadwy mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ragfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/) a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU –  https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum 07590 848818

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r Gwasanaeth Ynni yn helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft benthyciadau di-log a grantiau.

Email | E-bost: enquiries@energyservice.wales | ymholiadau@gwasanaethynni.cymru

Twitter | Trydar: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Ar gyfer Cyngor Casnewydd

public.relations@newport.gov.uk

01633 656656 neu 01633 210461

www.newport.gov.uk

Dilynwch/Follow:

@CyngorCasnewydd

@NewportCouncil

facebook.com/cyngordinascasnewydd

facebook.com/NewportCityCouncil

Rhannu’r Dudalen