Partneriaeth i helpu i roi hwb i uchelgais Cyngor Casnewydd i fod yn garbon niwtral

Mae project uchelgeisiol a fydd yn gweld nifer o baneli solar wedi’u gosod ar doeon adeiladau’r Cyngor ledled Casnewydd wedi cymryd ei gam cyntaf.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio ag Egni Co-op i helpu’r awdurdod gyda’i nod o ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Yn dilyn astudiaeth fanwl o ddichonoldeb – gyda chefnogaeth Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru – mae cynllun wedi’i lunio i osod 6,000 o baneli solar mewn 21 o safleoedd na fydd angen i’r Cyngor dalu amdanynt.

Joju Solar

Mae ysgolion, depo cyngor a chartrefi gofal wedi’u nodi hyd yma ac ar ôl eu gosod bydd y paneli solar yn cynhyrchu 1,973,000 o unedau o drydan adnewyddadwy glân bob blwyddyn.

Cwblhawyd gwaith yn ddiweddar yng nghartrefi Gofal Preswyl Parklands a Blaen-y-Pant lle mae 129 o baneli solar wedi’u gosod yn y ddau safle.

Blaenypant

Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle gan leihau allyriadau carbon y Cyngor 348 tunnell y flwyddyn. Bydd rhywfaint o drydan yn cael ei allforio i’r grid i’w ddefnyddio yn y ddinas hefyd.

Joju Solar

Dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddatblygu Cynaliadwy: “Mae’r Cyngor yn benderfynol o arwain y gad o ran mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a thrwy weithio gydag Egni Co-op yn y misoedd i ddod byddwn yn cyflawni 20 gwaith yn fwy o ynni adnewyddadwy trwy offer wedi’i osod ar ein hadeiladau.

Blaenypant

“Dyma gam mawr tuag at ein huchelgais o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

Sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru yw Egni Co-op. Fe’i sefydlwyd gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni gymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd.

Mae’r paneli solar yng Nghasnewydd wedi’u hariannu gan fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru a chynnig cyfranddaliadau cydweithredol parhaus Egni sydd wedi codi £ 1.4m hyd yma.

Mae’n hyrwyddo rhaglen addysg arbenigol sy’n amlygu manteision paneli solar, ynni adnewyddadwy a’r model busnes o fentrau cydweithredol, a’r defnydd a wneir ohonynt.

Mae’r cwmni hefyd yn rhan o broject yr UE i gefnogi entrepreneuriaeth gydweithredol mewn ysgolion, sy’n dechrau ym mis Ebrill eleni.

Bydd yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i gyflawni’r project hwn ac yn defnyddio’r deunyddiau a gynhyrchwyd yn rhan o’i becyn addysg yn ysgolion y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Sgiliau: “Rydym yn falch iawn o’r ffordd gadarnhaol mae disgyblion a staff ysgolion yn ymgysylltu â’r project uchelgeisiol hwn.

“Mae nifer o’n hysgolion eisoes yn aelodau o chwaer-broject Egni sef fferm wynt Cydweithfa Awel ac wedi ymweld â thyrbinau gwynt. Yn rhan o waith Egni bydd porthol addysg ar-lein yn cael ei ddatblygu fel y gall myfyrwyr ddysgu mwy am ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar doeau eu hysgolion.”

Ysgol Newport High School

Bydd Egni Co-op hefyd yn cynnig cymorth addysgu/gwersi penodol sy’n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy swyddog ynni penodedig a fydd yn ymweld ag ysgolion.

Ysgol Ringland School

Dywedodd Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chasnewydd. Ein nodau yw mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, lleihau costau ynni Cymru a datblygu projectau addysgol gydag ysgolion. Mae’n wych bod yn rhan o gydweithfa’n gweithio gydag awdurdod lleol yng Nghymru, gan ei fod yn cadw’r cyllid o fewn Cymru ac mae’n creu llawer o ganlyniadau addysgol cadarnhaol.

Rosie Gillam

“Bydd gan bob ysgol £500 o gyfranddaliadau yn y gydweithfa, a fydd yn creu cyfleoedd i ddysgu am fodel busnes y gydweithfa er mwyn helpu i roi hwb i entrepreneuriaeth.”

Nodiadau i’r Golygydd:

Egni Coop

Sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru yw Egni Co-op. Fe’i sefydlwyd gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni gymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chynnwys pobl yn y maes ynni.

Mae’r tîm sy’n gyfrifol am greu Egni hefyd wedi creu cydweithfa benigamp Awel, fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Fe’i ariannwyd gan fenthyciad £5.25m gan Tridos Bank a chynnig rhandaliad cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni wobr Project Ynni Adnewyddadwy Rhagorol mewn gwobrau wedi’u noddi gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/ a chydnabuwyd Awel Aman Tawe fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Joju Solar

Mae Egni wedi penodi Joju Solar fel ei osodwr ar gyfer Casnewydd. Joju Solar yw prif osodwyr y DU o gynlluniau ynni solar a ariennir gan y gymuned.  Gosodon nhw’r project solar cymunedol cyntaf yn y DU yn ôl yn 2008, ac ers hynny maent wedi bod yn gyfrifol am adeiladu bron i 10% o’r holl ynni adnewyddadwy a ariennir gan y gymuned yn y DU.  Mae hyn oll wedi bod yn baneli solar wedi’u gosod ar doeon cannoedd o safleoedd unigol, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, adeiladau diwydiannol, prifysgolion ac archfarchnadoedd.

Mae Dr Chris Jardine, Cyfarwyddwr Technegol Joju Solar, yn esbonio bod “ynni cymunedol yn ffordd o leihau carbon ar raddfa fawr, gan ymgysylltu â’r gymuned leol ar yr un pryd.  Mae angen i’r newid i ynni cynaliadwy gael ei adeiladu o’r gwaelod i fyny fel hyn, er mwyn iddo fod yn llwyddiannus.  Mae cynllun Egni yng Nghasnewydd yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni.”

Am ragor o fanylion cysylltwch ag Egni Co-op. Rosie Gillam ar 07938 377374 neu Dan McCallum ar 07590 848818

public.relations@newport.gov.uk

01633 656656

www.newport.gov.uk

Dilynwch/Follow:

@CyngorCasnewydd

@NewportCouncil

facebook.com/cyngordinascasnewydd

facebook.com/NewportCityCouncil

Rhannu’r Dudalen