Newyddion yn Awelog a Diwrnodau Agored Newydd

Gallwch ddarllen am hynt y gwaith adeiladu a gweld lluniau yn Awelog

Rydym ni’n cynnal ymweliadau â’r safle dydd Iau 11 Awst am 2pm, dydd Iau 8 Medi am 2pm a dydd Mawrth 20 Medi am 2pm. Mae lle i 10 o bobl ar bob ymweliad felly anfonwch e-bost i info@awelamantawe.co.uk i gadw lle. Byddwn ni’n cyfarfod yn y swyddfeydd ar y safle, oddi ar yr A474, 3 milltir i’r gogledd o Bontardawe.

Byddwn ni’n gyrru 4 cilometr i fyny’r trac i weld sylfeini’r tyrbin a’r isbwerdy. Bydd ein peirianwyr o gwmni adeiladu Raymond Brown ar y safle a bydd digon o amser i ofyn cwestiynau. Bydd paned o de a phice ar y maen hefyd.

Gwyliwch ein fideo newydd Gêm codi ffyn – egni wynt – 4 diwrnod o waith mewn 3 munud!

Mae ein hymgyrch gyfranddaliadau wedi mynd yn wych ac rydym ni bellach wedi sicrhau dros £1.2 miliwn. Mae dal cyfle i chi  ac ymunoâ ni.

Gobeithio eich gweld chi cyn bo hir

Dan, Emily, Mary Ann, Brian, Suzanne a Carl, www.awel.coop

Rhannu’r Dudalen