Mwy o osodiadau, ond mae ein gwaith addysgol ar stop am y tro…

Yn amlwg, mae Covid-19 yn effeithio ar ein gwaith, ond rydym yn dal i gwblhau’r gosodiadau yn ôl y cynllun. Dyma luniau o rai o’n gosodiadau diweddar – i rannu tipyn o newyddion cadarnhaol sydd fawr eu hangen ar hyn o bryd!

50kW yng Nghanolfan Glasdir yng Nghonwy, a osodwyd gan Zero Carbon Renewables

22kW yn Ysgol Gynradd Maesglas yng Nghasnewydd, a osodwyd gan Joju

10kW yn Llyfrgell Cymer a osodwyd gan Ice Power

22kW yn Ysgol Gynradd Maendy a osodwyd gan Joju Solar

30kW yng Nghlwb Rygbi Cwm-gors a osodwyd gan Urban Solar

59kW yn Ysgol Gyfun St Josephs sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru yng Nghasnewydd, a osodwyd gan Joju

Ac rydym yn dechrau gosod ar Felodrom Casnewydd yfory. Gallai hwn fod mor fawr â 500kW, y prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru. Mae gennym 100kW sydd â chymhorthdal FiT y mae’n rhaid ei osod cyn diwedd Mawrth – byddwn yn gosod y gweddill yn ystod yr ail gam. Rydym yn gwneud y rhan honno heb gymhorthdal gan ein bod yn gweithio ar nifer o’n gosodiadau mawr – yn amlwg mae buddion cost o ran sgaffaldiau, dylunio, amser y gosodwr, mwyhau’r lle ar y toeon a chapasiti grid. Rydym yn anelu at gael yr effaith mwyaf ar newid hinsawdd o’n gosodiadau.

Mae gan un neu ddau o’n safleoedd gysylltiadau â chewri chwaraeon Cymru – Clwb Rygbi Cwm-gors â’r chwaraewr rygbi mwyaf erioed, Gareth Edwards. A Geraint Thomas, pencampwr cyntaf Cymru yn y Tour de France sydd wedi beicio yn y Felodrom yn aml.

Oherwydd y mater presennol gyda chyflenwi paneli, rydym yn falch iawn bod Joju Solar, ein prif osodwr yng Nghasnewydd, wedi archebu’n holl baneli ymlaen llaw ac yn eu storio mewn warws enfawr yng Nghasnewydd.

O ran Covid-19, gan ein bod yn gweithio ar doeon yn bennaf, mae’r ysgolion a’r cynghorau wedi penderfynu nad yw’r gosodiadau solar yn creu risg ychwanegol sylweddol i’r disgyblion a’r staff. Rydym wedi bod yn rhyngweithio cyn lleied â phosibl â’r bobl yn yr ysgolion. Os bydd yr ysgolion yn cau, byddwn yn gwneud trefniadau gyda’r gofalwyr fel y gallwn barhau i gael mynediad i gwblhau ein gwaith.

Yn anffodus, rydym wedi gorfod gohirio’r sesiynau addysgol a redwn yn yr ysgolion yn ystod y cyfnod gosod. Dyma enghreifftiau: Plant Ysgol Gynradd Maendy yn weirio citiau solar ac yn defnyddio bwlb golau i bweru tyrbin, a phlant St Patricks yng Nghaerdydd yn cael hwyl gyda phaneli solar. Byddwn yn ailddechrau’r gwaith hwn unwaith y bydd pob ochr yn cytuno ei bod yn ddiogel i ni wneud felly gan fod hon yn agwedd bwysig iawn o’n gwaith.

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Maendy

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Maendy Meddai Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam “Hoffem ddiolch i’r ysgolion a’r safleoedd eraill am eu cydweithrediad a’u brwdfrydedd – mae pawb wedi cyd-dynnu i helpu i sicrhau bod y gwaith gosod yn mynd yn ei flaen yn hwylus. Mae ein gosodwyr, Joju Solar, Ice Power, Zero Carbon Renewables, Urban Solar a Styles Electrical wedi gweithio’n galed iawn hefyd, yn aml mewn tywydd gwlyb iawn dros y mis diwethaf.

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Maendy

Fel rhan o waith Egni, mae porth addysgol ar-lein yn cael ei ddarparu fel y gall y myfyrwyr ddysgu mwy am yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar doeon eu hysgolion. Bydd Egni Co-op hefyd yn darparu cymorth addysgu/gwersi penodol sy’n cysylltu â’r cwricwlwm Cymreig newydd drwy swyddog ynni penodedig a fydd yn ymweld ag ysgolion.”

Ysgol Gynradd St Patricks yng Nghaerdydd yn llawn cynnwrf ynghylch solar!

Am ragor o fanylion ynghylch Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Rhannu’r Dudalen