Mae rhaglen solar ar doeon Cyngor Casnewydd/Egni Coop yn codi’r bar o ran ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae gosodiadau newydd gael eu cwblhau ar 6 ysgol – a rhai o’r rhain ymhlith y mwyaf yng Nghymru.

Mae’r gosodiadau solar newydd yn cynnwys 225kW ar Ysgol Uwchradd John Frost, systemau 200kW ar Ysgolion Uwchradd Llanwern a Chasnewydd, 99kW yn Llyswyry a 30kW ar Ysgol Gymraeg Casnewydd. Mae hyn yn ogystal â dau osodiad yng Nghartrefi Gofal Blaen y Pant a Parklands sydd ag 8kW a 25kW yn eu trefn.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydweithio ag Egni Co-op i helpu’r awdurdod gyda’i nodau o ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
Meddai Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam: “Rydym yn gwneud cynnydd ardderchog yng Nghasnewydd a chyn hir, rydym yn disgwyl gweld 1MW o gapasiti wedi’i osod. Hoffwn ddiolch i’r ysgolion am eu brwdfrydedd – mae staff yr ysgolion a swyddogion y cyngor wedi cyd-dynnu i sicrhau bod y gosodiadau’n mynd yn eu blaen yn hwylus. Mae ein gosodwyr, Joju Solar, wedi gweithio’n galed dros ben hefyd, yn aml mewn amodau gwlyb iawn dros y mis diwethaf. Yn bwysicaf oll, mae’r disgyblion yn yr ysgolion wedi dangos diddordeb mawr hefyd, maen nhw wedi gwylio’r gosodiadau ac wedi gofyn llawer o gwestiynau da. Gobeithio, felly, y bydd rhai ohonynt yn mynd yn eu blaen i fod yn beirianwyr ynni adnewyddadwy yn y dyfodol!”

Esboniodd Dr Chris Jardine, Cyfarwyddwr Technegol Joju Solar: “Mae ynni cymunedol yn ffordd o gyflawni gostyngiadau carbon ar raddfa sylweddol, ac ar yr un pryd rydym yn cyd-ymweithio â’r gymuned leol. Os yw’n mynd i lwyddo, mae’n rhaid adeiladu’r trawsnewid i ynni cynaliadwy o’r gwaelod i fyny fel hyn. Mae gwaith Egni gyda Chasnewydd yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni.”

At ei gilydd, bydd 6,000 o baneli solar yn cael eu gosod gan Egni ar draws 21 safle, heb unrhyw gost i’r cyngor, gyda’r cyfanswm capasiti mwyaf yn agos at 2 MW.
Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle gan leihau allyriadau carbon y cyngor o 348 tunnell y flwyddyn. Bydd peth trydan hefyd yn cael ei allforio i’r grid i’w ddefnyddio yn y ddinas.
Meddai’r Cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet y cyngor dros ddatblygu cynaliadwy: “Mae’r cyngor yn benderfynol o arwain ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a thrwy weithio gydag Egni Co-op dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflawni cynnydd ugeinplyg yn swm yr ynni adnewyddadwy a osodir ar ein hadeiladau.

“Mae hwn yn gam mawr tuag at ein huchelgais o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.”
Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd.

Meddai’r Cynghorydd Gail Giles, aelod cabinet y cyngor dros addysg a sgiliau: “Rydym wrth ein bodd o weld y ffordd gadarnhaol mae’r disgyblion a’r staff yn ein hysgolion yn cyd-ymweithio â’r prosiect uchelgeisiol hwn.

“Mae nifer o’n hysgolion yn aelodau o brosiect chwaer Egni, fferm wynt Awel Co-op, yn barod, ac maen nhw wedi ymweld â’r tyrbinau gwynt. Fel rhan o waith Egni, bydd porth addysgol ar-lein yn cael ei ddatblygu fel y gall y myfyrwyr ddysgu mwy am yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar doeon eu hysgolion.”
Bydd Egni Co-op hefyd yn darparu cymorth addysgu/gwersi penodol sy’n ymgysylltu â’r cwricwlwm Cymreig newydd drwy swyddog ynni penodedig a fydd yn ymweld ag ysgolion.