Mae wedi bod yn wyntog! Awel Co-op yn talu llog llawn i’w aelodau ar ôl y flwyddyn 1af. Y Cynnig Cyfranddaliadau ar agor o hyd…

Mae Awel Co-op yn falch iawn o adrodd ei fod wedi llwyddo i ad-dalu eu taliadau llog i aelodau’r cwmni cydweithredol o ddyddiad eu buddsoddiad yn y prosiect gwobrwyedig.

Rydym wedi gwneud taliadau o 5% a 7% (yn dibynnu ar pryd wnaethon nhw ymuno) i’n 800 o aelodau fel y rhagwelwyd yn ein Cynnig Cyfranddaliadau Cymunedol. Mae hwn yn llwyddiant anferth yn ein blwyddyn gyntaf o gynhyrchu. Mae wedi ein helpu i ennill Gwobrau Busnes Castell-nedd Port Talbot am Gynaliadwyedd. Mae’n profi bod pobl yn gallu cael gwell enillion na gan y banciau drwy fuddsoddi mewn busnes cymunedol gwyrdd.

Ynghyd â’r llu o unigolion a fuddsoddodd ynom ni, mae aelodau ein cwmni cydweithredol yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau cymunedol yn yr ardal leol fel Meithrinfa Tiddlywinks, 16 o ysgolion, Cyfeillion Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, ein dau bapur newydd Cymraeg lleol, Llais a Glo Man, a llawer o rai eraill. Mae hyn oll yn helpu i gadw arian yn yr economi leol ac i ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar newid hinsawdd.

Rydym bellach wedi codi bron £2.8m o’n Cynnig Cyfranddaliadau a gobeithiwn gyrraedd ein targed o £3m erbyn 30 Mehefin.  Bydd hyn yn ein galluogi i ad-dalu’r benthyciad sy’n weddill oddi wrth Lywodraeth Cymru fel y bydd y prosiect yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan aelodau’r cwmni cydweithredol a Banc Triodos. Y buddsoddiad lleiaf yw £50 a’r gyfradd llog rhagamcanol yw 5%. Ymunwch â ni yma www.awel.coop

Gallwch weld ein Cyfrifon am 2017 yma ar gyfer Awel Co-op ac ar gyfer Awel y Gwrhyd CBC, yr is-gwmni masnachu sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Awel Co-op ac sy’n rhedeg y fferm wynt.

Mae gan ynni cymunedol y potensial unigryw o fedru dod â chymunedau at ei gilydd yn y frwydr i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a hefyd i gadw’r cyllid o’u hadnoddau ynni yn y cymunedau hynny.

Rydym ninnau, a grwpiau cymunedol eraill, yn ymgysylltu â phobl mewn ffyrdd creadigol – ar ôl ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos hon, ar ddechrau’r pythefnos Ynni Cymunedol genedlatheol, daeth dros 100 o bobl i weld y cynhyrchiad newydd, ‘Flood’. Cafodd y ddrama hon ei datblygu gan ysgrifenwyr lleol ac roedd yn dangos senario ddychmygol ble roedd Abertawe dan ddŵr oherwydd llifogydd, ac mae’r ffoaduriaid yn dod i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe, a oedd wedi ei throi yn Bwynt Ymgilio am y noswaith. Darparwyd cawl gan gaffi bendigedig Café Make.

‘Flood’

Y gynulleidfa’n mwynhau ‘Flood’ yng                                                                                                         Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe 

 

Rhannu’r Dudalen