Mae Paul Thorburn, enw chwedlonol o fyd rygbi Cymru, yn rhoi hwb Anferthol i Gynnig Cyfranddaliadau cydweithfa wynt.

Paul Thorburn rugby playerMae Paul Thorburn, cyn gapten tîm rygbi Cymru wedi annog pobl Cymru, a thu hwnt, i fynd y tu ôl i gydweithfa wynt gymunedol Awel. Dywed Paul: “Mae hon yn ffordd ffantastig a chydweithredol o weithredu ar newid hinsawdd cyn cynhadledd y CU ym Mharis. Gall unrhyw un dalu cyfranddaliad gan felly bod yn aelod o’r gydweithfa. Un aelod, un bleidlais. Mae’n gyfle i rannu perchnogaeth o wynt Cymru.

Rwyf wedi dilyn y prosiect hwn dros y blynyddoedd ac wedi ysgrifennu i gefnogi eu cais cynllunio yn y dyfodol. Gwn pa mor benderfynol yw’r rhain. Rwy’n gefnogwr mawr o brosiectau ynni cymunedol. Rwy’n edrych ymlaen i weld y tyrbinau’n troi uwchben Cymoedd Tawe a Nedd.

Cynorthwyodd ynni gwynt rhai o fy ymgeision o gicio goliau ar y cae. Mae gweld y manteision wedi dychwelyd i’r gymuned leol gan yr adnodd hwn yn anhygoel.”

Dywedodd Dan McCallum o Awel: “Rydym yn falch o dderbyn cefnogaeth Paul. Ni all neb anghofio y gic Anferthol honno fel y disgrifiwyd gan sylwebaeth Bill McClaren. Mae’n eiliad eiconig i rygbi Cymru. Mae Paul yn gyfan gwbl ymroddedig i’w gymuned leol. Mae wedi bod yn un o’n cefnogwyr hirhoedlog. Nawr ein bod angen cyhoeddusrwydd ar gyfer ein Cynnig Cyfranddaliadau cydweithredol, mae’n garedig iawn wedi cytuno i roi ei enw arno. Rydym eisiau Cymru i arwain ar fynd i’r afael â newid hinsawdd. Trwy ymuno â’n cydweithfa wynt, gall unrhyw un yng Nghymru, neu thu hwnt, fod yn rhan o’r ymdrech honno. Ewch i  www.awel.coop i wybod mwy.”

Manylion Pellach:

Bydd y ddau dyrbin yn cynhyrchu ynni glân, ac yn bwydo holl enillion yn ôl i brosiectau cymunedol.

Mae hwn yn gyfle i fod yn berchen ar ychydig o bŵer gwynt Cymru, gweithredu ar newid hinsawdd a chael arian yn ôl ar eich buddsoddiad. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu gan Awel Aman Tawe, sef elusen leol. Mae caniatâd cynllunio llawn mewn lle ar gyfer dau dyrbin, gan wneud cyfanswm o 4.7 MW ar Fynydd y Gwrhyd, rhyw 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.

Mae £121k wedi cael ei fuddsoddi yn barod ledled y DU ers y lansiwyd y Cynnig Cyfranddaliadau yr wythnos ddiwethaf.

Mae cyfnod saith diwrnod ar ôl ar gyfer y Cynnig hwn. Mae’r Cynnig Cyfranddaliadau ar agor tan Dachwedd 23ain 2015. Bydd hyn yn galluogi buddsoddwyr i hawlio gostyngiad treth presennol cyn y caiff ei dynnu’n ôl gan y llywodraeth:

·         Oherwydd y cyfnod amser, rydym yn dyrannu Cyfranddaliadau ar sail cyntaf i’r felin

·         Cyfranddaliadau ar gael o £50

·         Cyfradd gyfnewid rhagamcanol o 7% (11.5% gyda gostyngiad treth Cynllun Buddsoddiad Menter)

·         Cefnogi swyddi lleol

Rhannu’r Dudalen