Mae dwy ysgol arall yn Abertawe yn gosod solar mewn pryd ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru … ac mae mwy ar y ffordd!

Mae systemau cynradd solar wedi’u gosod yn ysgolion cynradd Portmead a Glyncollen, gan ychwanegu at y tair ysgol arall gyda solar wedi’i osod gan Egni Co-op ym mis Medi. Mae system 30 kWp sy’n cynnwys 80 panel wedi’i gosod yn Portmead a system 24 kWp gyda 64 panel yn Glyncollen.

Portmead Primary

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam “mae’n wych bod ysgolion Abertawe a’r Cyngor yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, a bod y systemau hyn wedi’u comisiynu’n llawn yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru. Rydym yn falch iawn bod ysgolion eraill Abertawe yn dod ymlaen, yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen. ”

Mae Cyngor Abertawe yn cydweithio ag Egni Co-op a Gwasanaeth Egni Llywodraeth Cymru i helpu’r awdurdod gyda’i nod i ddod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.

Glyncollen

Gyda’i gilydd maent wedi gosod 220kw o baneli solar ar doeau tair ysgol – Ysgolion Cyfun Pentrehafod, Tre-gŵyr a Phontarddulais.

Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gaiff ei gynhyrchu ei ddefnyddio yn yr ysgolion, gan leihau allyriadau carbon o’r ysgolion oddeutu 1,600 o dunelli dros yr 20 o flynyddoedd nesaf. Caiff peth o’r trydan ei allforio i’r grid hefyd i’w ddefnyddio yn y ddinas. 

Pentrehafod

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau: “Rydym yn hapus iawn gyda’r cynnydd yn yr ynni gwyrdd glân yn ein hysgolion yn Abertawe.

“Datganwyd ein hargyfwng hinsawdd yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ar 27 Mehefin a hoffwn ganmol fy swyddogion a’n hysgolion am weithredu’n gyflym mewn ymateb i’r datganiad hwn.

“Cyflawnwyd hyn yn ystod cyfnod pan rydym yn wynebu llawer o bwysau o sawl cyfeiriad a hoffwn ddiolch i holl swyddogion y cyngor a fu’n rhan o’r prosiect i sicrhau ei fod wedi’i gwblhau ar amser ac i safon.”

Ychwanegodd, “Ariennir cost y gosodiadau solar hyn gan Egni Co-op a chaiff yr holl wargedion eu gwario ar brosiectau addysg felly mae’n ymagwedd partneriaeth dda iawn ar gyfer y cyngor.

“Mae’r cyngor yn benderfynol o arwain y ffordd wrth fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a thrwy weithio gydag Egni Co-op, rydym am gynyddu nifer y gosodiadau ynni adnewyddadwy sydd ar ein hadeiladau. Dyma gam mawr tuag at ein huchelgais o fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030.”

Pontardulais

Sefydliad cymunedol yw Egni Co-op sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu am 20 o flynyddoedd.

Ariennir y paneli solar yn Abertawe gan gynnig cyfrannau cydweithredol parhaus Egni Co-op sydd wedi codi £1.9m hyd yma. Cefnogwyd y gwaith o gyflwyno’r prosiect gan Wasanaeth Egni Llywodraeth Cymru a ddarparodd amser swyddogion i’r cyngor i gefnogi’u hymdrechion.

Meddai Sarah Hunt, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, “Rydym yn hapus iawn gyda’n paneli solar newydd. Mae ein pobl ifanc yn awyddus iawn i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae’n wych bod yr ysgol wedi gallu lleihau ei hôl-troed carbon. Byddwn yn gweithio gydag Egni Co-op i fwyafu’r manteision addysgol.”

Gowerton

Meddai Andrew Barrett, Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Pentrehafod, “Roedd y gosodwyr yn rhagorol trwy gydol y broses a byddwn yn argymell Egni Co-op i ysgolion eraill yn Abertawe oherwydd eu safon a’u hymagwedd ofalus.”

Meddai Dylan Jenkins, Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Pontarddulais, “Mae hyn o fudd mawr i’r ysgol ac i’n disgyblion gan ei fod yn lleihau ein heffaith amgylcheddol a’n biliau trydanol.”

Mae Egni yn datblygu rhaglen addysg arbenigol sy’n tynnu sylw at fanteision paneli solar, ynni adnewyddadwy a sut i’w defnyddio a model busnes cwmnïau cydweithredol.

Mae Egni yn rhan o brosiect yr UE i gefnogi mentergarwch cwmnïau cydweithredol mewn ysgolion http://youcoope.eu/.

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni, “Bydd y tair ysgol yn Abertawe’n derbyn gwerth £500 o gyfranddaliadau Egni Co-op ac rydym am weithio gyda’u pobl ifanc i gynyddu dealltwriaeth o’r ymagwedd gydweithredol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

“Caiff porth addysgol ar-lein ei ddatblygu fel y gall myfyrwyr ddysgu mwy am ynni adnewyddadwy a gynhyrchir a bydd Egni Co-op hefyd yn darparu cefnogaeth benodol ar gyfer yr addysgu/y gwersi sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd i Gymru Mae’n wych bod yn rhan o gwmni cydweithredol sy’n gweithio ar y cyd ag awdurdod lleol yng Nghymru, gan ei fod yn cadw’r arian yng Nghymru ac mae llawer o ganlyniadau cadarnhaol yn deillio ohono.

Egni Coop

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.

Bellach mae Egni wedi gosod mwy na 3,000 kW o solar ar doeon ar ysgolion, busnesau ac adeiladau cymunedol ar draws Cymru. Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd – sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni’r wobr am Brosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/) a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen