Mae Awel Aman Tawe/Egni yn un o’r terfynwyr yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU, sydd yn cydnabod busnesau sy’n newid y byd.

Mae Awel Aman Tawe ar y rhestr fer yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU, gan gydnabod ei bod yn un o fentrau cymdeithasol blaenllaw’r DU.

Mae Awel Aman Tawe yn un o’r terfynwyr yn y categori Mentrau Cymdeithasol Amgylcheddol. Mae’n elusen sy’n ennyn diddordeb pobl mewn prosiectau newid hinsawdd ac mae wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol, Egni ac Awel, i helpu i gyflawni’r nodau hynny. Ar hyn o bryd mae Egni Coop yn rhedeg Cynnig Cyfranddaliadau i ariannu’r rhaglen fwyaf o osod solar ar doeon yn hanes Cymru ac mae wedi codi dros £700k gan aelodau ar draws y DU (www.egni.coop). Y llynedd, arbedodd Egni ac Awel Coop (fferm wynt gymunedol arobryn) 3,300 o dunelli o allyriadau carbon, ymgysylltodd â mwy nag 20,000 o bobl, a chreodd 3 swydd.

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n masnachu at ddiben cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae mwy na 100,000 o fentrau cymdeithasol yn y DU sy’n cyfrannu £60 biliwn i’r economi, a phob un yn cael ei sefydlu i ymdrin â rhai o’r heriau mwyaf a wynebwn, o ddigartrefedd i newid hinsawdd.

Rhedir Gwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU gan Social Enterprise UK, y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer mentrau cymdeithasol, i gydnabod mentrau cymdeithasol mwyaf arloesol y genedl. Bydd Awel Aman Tawe yn ymuno â’r sefydliadau eraill ar y rhestr fer yn y seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Neuadd y Ddinas eiconig Llundain ar 4 Rhagfyr.

Mae’r enillwyr blaenorol wedi cynnwys cwmni coffi a sefydlwyd i greu swyddi i bobl ddigartref, darparwr gofal iechyd cymunedol sy’n perthyn i’r gweithwyr a chwmni a sefydlwyd i ymdrin â thlodi angladdau.

Yn ei sylw ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Cyfarwyddwr Awel Aman Tawe, Dan McCallum MBE:

“Mae’n anrhydedd cael y gydnabyddiaeth hon. Gan fod newid hinsawdd bellach yn cael ei ystyried yn fater allweddol yn y DU, mae’n hanfodol bod mentrau cymdeithasol yn cynnig atebion a fydd yn ennyn diddordeb pobl, ysgolion a’r gymdeithas sifil gyfan mewn gweithredu ar newid hinsawdd. Mae ein Cynnig Cyfranddaliadau Egni Coop ar agor o hyd ac rydym wedi codi dros £700k ar gyfer solar ar doeon yn barod, felly gobeithiwn y bydd y gydnabyddiaeth hon yn ein galluogi i sicrhau mwy o fuddsoddiad a chyrraedd ein targed o osod 5000kw o solar ar doeon erbyn Mawrth 2020.”

Yn ei sylw ar y Gwobrau, dywedodd Prif Weithredwr Social Enterprise UK, Peter Holbrook:

“Mae safonau’r ceisiadau ar gyfer Gwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU yn codi bob blwyddyn. Ar adeg pan fod hyder y cyhoedd mewn busnes yn isel iawn, ac wrth i ni wynebu argyfyngau gwleidyddol ac amgylcheddol – mae rhestr fer eleni’n dangos sut gellir defnyddio busnes i adeiladu byd gwell.”

Ynglŷn â mentrau cymdeithasol

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau sy’n masnachu at ddiben cymdeithasol neu amgylcheddol ac sy’n ail-fuddsoddi neu’n rhoddi dros hanner eu helw i hyrwyddo’r genhadaeth gymdeithasol neu amgylcheddol hon. Maen nhw’n chwarae rhan gynyddol bwysig yn economi’r DU gan gyfrannu £60 biliwn a chyflogi 2 filiwn o bobl. Amcangyfrifir bod 100,000 ohonynt yn y DU. Mae ymchwil gan Social Enterprise UK, corff aelodaeth y sector, yn dangos eu bod yn perfformio’n well na busnesau traddodiadol o ran cyfraddau dechrau busnes, twf trosiant ac arloesedd. Maent ar y blaen hefyd o ran amrywiaeth y gweithlu a chyflogau. Am ragor o wybodaeth ac ystadegau, darllenwch gyhoeddiad Social Enterprise UK, State of Social Enterprise Report: The Future of Business a’r adroddiad Hidden Revolution a lansiwyd ym mis Medi 2018 ac a ddangosodd gwir raddfa ac effaith y sector.

Ynglŷn â Social Enterprise UK

Ar y cyd â’n haelodau, y ni ydy’r llais dros fenter gymdeithasol yn y DU. Rydym yn datblygu marchnadoedd, cynnal ymchwil, darparu gwybodaeth ac offer, rhannu gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu i greu amgylchedd busnes lle gall mentrau cymdeithasol ffynnu. Mae ein haelodau’n amrywio o sefydliadau llawr gwlad i fusnesau gwerth lluosfiliynau o bunnoedd.

socialenterprise.org.uk

Rhannu’r Dudalen