Llyswyry: Partneriaeth Ynni Glân Co-op

Mae un o’r araeau solar mwyaf ar unrhyw ysgol yng Nghymru newydd gael ei chomisiynu yn Ysgol Gyfun Llyswyry. Mae’r paneli solar 100kW yn ganlyniad i bartneriaeth rhwng y cyngor ac Egni Co-op, sef menter ynni gymunedol a sefydlwyd gan yr elusen arobryn, Awel Aman Tawe.

Bydd y system yn cynhyrchu dros 80,000kWh y flwyddyn, sef digon i gyflenwi anghenion trydan tua 27 o gartrefi.

Meddai David Paris, y Rheolwr Safle yn Llyswyry, “Bydd y paneli solar yn lleihau ein hôl-troed carbon o bron 20 tunnell o CO2 y flwyddyn ac yn lleihau ein costau ynni. Roedd yr Ysgol eisiau dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol ac mae wedi cydweithio ag Egni i gyflawni hyn. Gan fod pobl ifanc mor ymwybodol o newid hinsawdd, mae’n agenda sydd o ddiddordeb mawr i’r plant. Bydd Egni hefyd yn darparu cymorth addysgol parhaus i’r ysgol ar faterion ynni – gellir gweld faint o ynni mae’r paneli’n cynhyrchu ar wefan yma. Bydd yr ysgol hefyd yn ymweld â chwaer brosiect Egni, Awel, sef fferm wynt gymunedol ger Abertawe. Bydd yn ddiddorol iawn i’r plant gael cymharu’r ddau fath o gynhyrchu adnewyddadwy.”

Rosie Gillam, Egni; David Paris, Rheolwr Safle Llyswyry; Eric Couling, Joju Solar

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni, “Mae’r prosiect hwn yn ganlyniad i lawer o waith caled gan yr ysgol, staff y cyngor, Joju Solar ac Egni. Rydym mor falch o weld y paneli’n cynhyrchu ynni glân – hyd yn oed yn ystod y tywydd gwael presennol!

Mae ein gosodwyr wrthi’n gweithio ar draws Cymru i osod paneli solar ar safleoedd y funud yma. Y disgwyl yw y byddwn wedi gosod 2.5MW erbyn diwedd Mawrth. Gallwch weld ein holl safleoedd sydd wedi’u gosod yma. Yn ddiweddar rydym wedi codi ein Cynnig Cyfranddaliadau yn Co-op i £2m. Fel rhan o’n prosiect, rydym yn rhoi £500 o gyfranddaliadau Co-op i Lyswyry – y nod yw helpu’r plant i ddysgu sut mae model busnes Co-op yn gweithio. Mae addysg entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o’r cwricwlwm cenedlaethol. Bydd yr ysgol yn ennill llog ar y £500 yn dibynnu ar berfformiad y paneli a bydd yn gallu cymryd rhan yn llywodraethu Egni Co-op.”

Meddai’r Cyfarwyddwr, Dan McCallum MBE, “Mae’n newyddion gwych bod pobl ledled y Deyrnas Unedig mor awyddus i fuddsoddi a chefnogi ynni adnewyddadwy.

Rydym wedi penderfynu cadw’r gyfradd llog flynyddol ar gyfer ein Cynnig Cyfranddaliadau ar @4% – rydym wedi cael benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. Ond byddai’n well gennym beidio â chodi’r cyfan am fod eu cyfradd llog nhw yn 5%. Felly, os gallwn ariannu mwy o’n gosodiadau o gyllid y Cynnig Cyfranddaliadau, gallwn gynyddu’r gwaith addysgol a wnawn mewn ysgolion. Mae’r Banc Datblygu wedi bod yn rhagorol ac nid ydynt yn codi tâl ychwanegol os na fyddwn yn codi’r holl fenthyciad neu’n ei ad-dalu’n gynnar.

Daw cyllid y Banc Datblygu oddi wrth Lywodraeth Cymru sy’n gefnogol iawn i brosiectau ynni cymunedol – felly os gallwn leihau’r swm y mae angen i ni ei fenthyca gan y Banc, mae’n golygu bod mwy ar gael ar gyfer prosiectau ynni cymunedol eraill.

At ei gilydd, bydd 6,000 o baneli solar yn cael eu gosod gan Egni ar draws 21 safle, heb unrhyw gost i Gyngor Casnewydd, gyda’r cyfanswm capasiti mwyaf yn agos at 2MW.

Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle gan leihau allyriadau carbon y Cyngor o 348 tunnell y flwyddyn. Bydd peth trydan hefyd yn cael ei allforio i’r grid er defnydd y ddinas.

Meddai’r Cynghorydd Deb Davies, aelod cabinet y Cyngor dros ddatblygu cynaliadwy: “Mae’r Cyngor yn benderfynol o arwain ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a thrwy weithio gydag Egni Co-op dros y misoedd nesaf, byddwn yn cyflawni cynnydd ugeinplyg yn swm yr ynni adnewyddadwy a osodir ar ein hadeiladau.

“Mae hwn yn gam mawr tuag at ein huchelgais o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.”

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd.

Meddai’r Cynghorydd Gail Giles, aelod cabinet y cyngor dros addysg a sgiliau: “Rydym wrth ein bodd o weld y ffordd gadarnhaol mae’r disgyblion a’r staff yn ein hysgolion yn ymgysylltu â’r prosiect uchelgeisiol hwn.

“Mae nifer o’n hysgolion yn aelodau o chwaer brosiect Egni, fferm wynt Awel Co-op, yn barod, ac maen nhw wedi ymweld â’r tyrbinau gwynt. Fel rhan o waith Egni, bydd porth addysgol ar-lein yn cael ei ddatblygu fel y gall y myfyrwyr ddysgu mwy am yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar doeon eu hysgolion.”

Rhannu’r Dudalen