Leinio’r capsiwl

Wrth feddwl am gynhesrwydd a chysur yn y tymereddau rhewllyd hynny, penderfynais leinio tu mewn y capsiwl gofod â ffelt…. o wlân Cymru gan Jakob, Olly a Spot ar Fferm y Cwm. Diolch!

Ni fu fy ymdrechion cyntaf ar ffeltio yn llwyddiant mawr, felly gelwais ar arbenigwr – Denise Morgan, a oedd yn arfer addysgu ffeltio. Recriwtiodd hithau gwpwl o aelodau eraill o’n dosbarth Cymraeg, Liz a David, a helpodd gyda’r cribo.

Roedd yn wych gweld y bagiau o wlân yn cael eu trawsnewid yn dri darn hardd o ffelt. Roedd yn broses mor gyffyrddol, ac roeddwn wedi mwynhau slapio’r ffelt ar y diwedd yn ofnadwy. Ddim yn siŵr os oedd hwn yn gam swyddogol, ond roedd yn therapiwtig iawn beth bynnag wrth i mi ddychmygu slapio Trump neu Boris.

Helpodd Angie i leinio’r waliau â phapur du yn barod ar gyfer yr arddangosfa, “Neges i’r Bydysawd: Dyma’r Ddaear”. Bydd yn esblygu wrth i ni fynd yn ein blaen a bydd yn cynnwys celfwaith gan bawb sy’n ymweld. Byddant yn creu darn sy’n cynrychioli beth fydden nhw’n ei ddweud wrth weddill y bydysawd am Y Ddaear. Dewch yn eich blaen a chymryd rhan!

Mae dydd yr Esgyniad yn nesáu! Ac rwy’n dechrau teimlo braidd yn nerfus. A wnaiff y capsiwl gyrraedd? A fydd y system gyfathrebu’n gweithio? A fydda i’n cofio sawl gwaith bydd angen troi o gwmpas y Ddaear cyn mynd ati i droi o gwmpas y Lleuad. Beth os na fydd y capsiwl yn gallu mynd yn ddigon cyflym? Beth os yw’n mynd ar dân? A oedd gofodwyr Apollo yn poeni am yr un pethau?

Fory mae 93 o ddisgyblion o Ysgol Pontardawe yn dod i helpu. Byddan nhw’n cynnal gwiriad ar y systemau a gwneud y gwaith peintio.

Rhannu’r Dudalen