Mae Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam, wedi cyhoeddi “Rydym yn falch iawn bod Cynnig Cyfranddaliadau cymunedol Egni Co-op ar agor bellach a hoffem eich gwahodd i fuddsoddi mewn ynni’r haul ar doeon ledled Cymru. Mae newid hinsawdd yn fater proffil uchel iawn ar hyn o bryd, felly mae’n gyfle i Gymru gymryd yr awenau ac i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan yn yr ymdrech cydweithredol hwn.
Mae Egni Co-op wedi sicrhau cymhorthdal Tariff Cyflenwi Trydan (FiT) ar gyfer paneli solar ar doeon ar dros 250 o safleoedd yng Nghymru a fydd yn meddu ar gapasiti mwyaf o dros 5,000kW. Mae ein safleoedd yn cynnwys busnesau, canolfannau cymunedol a phrifysgolion; clybiau golff, pêl-droed a rygbi; bragdy, canolfannau hamdden ac ysgolion.”

Meddai Cadeirydd Egni, Dan McCallum “Cyflwynwyd 40% o’r holl geisiadau i Ofgem yn y Deyrnas Unedig gan Egni a leolir yng Nghwmllynfell. Mae hwn yn llwyddiant rhyfeddol gan ein staff a bydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais i ‘solareiddio’ Cymru!”
Yn y cynnig cyfranddaliadau hwn, rydym yn ceisio codi £750,000 i gyllido rhaglen dreigl o osodiadau solar rhwng nawr a 31 Mawrth 2020. Rydym wedi sicrhau £307,000 o’r cyfanswm hwn yn barod gan ein haelodau presennol sydd wedi rhoi eu cefnogaeth gadarn i ni. Byddwn yn talu llog o’r dyddiad pan dderbyniwn gyllid.

Mae’r tîm sydd y tu ôl i’r Cynnig Cyfranddaliadau hwn wedi llwyddo i gyflenwi 179kW o ynni’r haul ar doeon ar 7 safle yn barod – yn ystod cynnig cyfranddaliadau cyntaf Egni Co-op yn 2014 (www.egni.coop). Datblygom Awel Co-op (www.awel.coop) hefyd, gan godi dros £3m drwy gyfranddaliadau cymunedol, ac adeiladom fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Ar y cyd â’n helusen gysylltiedig, Awel Aman Tawe, mae’r mentrau hyn wedi ennill amryfal wobrau. Mae’r Cyfrifon Blynyddol ar gael ar www.egni.coop ac www.awel.coop.
Mae Egni Co-op yn rhan o fudiad ynni cymunedol byd-eang. Yn y Deyrnas Unedig yn unig, mae’r sector yn werth £190 miliwn gyda 30,000 o bobl yn buddsoddi mewn 222 o grwpiau ynni cymunedol. Gyda’i gilydd, mae’r mudiad yn y DU wedi creu capasiti o 188MW o ynni adnewyddadwy.
Drwy ymuno ag Egni Co-op, byddwch yn rhan o fenter ddielw, sy’n perthyn i’r gymuned, gan dyfu’r cyflenwad o ynni gwyrdd lleol. Ynghyd â darparu adenillion rhagamcanol o 4% i aelodau ar eu buddsoddiad, bydd yr holl safleoedd yn derbyn trydan gwyrdd am bris gostyngol, a thrwy hynny byddant yn gostwng eu costau rhedeg a’u hallyriadau carbon, a bydd gan Egni Co-op y capasiti i ehangu eu rhaglen addysg a chodi ymwybyddiaeth.

Cewch ragor o wybodaeth yn www.egni.coop neu drwy anfon e-bost at admin@awel.coop.