Lansio ffilm newydd yn dangos Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas

Mae ffilm newydd wedi cael ei lansio i ddathlu cwblhau’r gosodiad solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd, gyda dros 2,000 o baneli solar. Gwnaed y ffilm gan Mike Harrison, sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Rhoddir y dolennau i’r ffilm isod. Mae’r gosodiad hwn yn un o brosiectau solar Egni ledled Cymru, gyda 3MW o solar ar doeon wedi cael ei osod ar ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau. Mae’r gwaith hwn yn mynd ymlaen o hyd.

Yn gweithio gydag Egni Co-op, mae’r prosiect ar Felodrom Geraint Thomas yn rhan o gynllun ehangach Cyngor Dinas Casnewydd i osod 6,000 o baneli solar ar 21 o adeiladau’r cyngor ar draws y ddinas, gyda tharged o ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. Bydd y paneli solar yn cynhyrchu cyfanswm cyfunol o 1,973,000 o unedau o drydan adnewyddadwy glân y flwyddyn a bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle.

Roedd hon yn bartneriaeth rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, Casnewydd Fyw, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas ac Egni Coop.

Meddai’r Cynghorydd Deb Davies, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: “Ar ôl gosod paneli solar yn llwyddiannus ar 19 o’n hadeiladau hyd yma, mae’n gyffrous gweld bod y gosodiad ar safle’r Felodrom wedi’i gwblhau. Mae ein nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn elfen allweddol o’n haddewid i adeiladu Casnewydd well, ac mae’r ynni adnewyddadwy a fydd yn cael ei gynhyrchu gan y Felodrom yn gam cadarnhaol tuag at gyflawni’r uchelgais hwnnw.”

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni Co-op: “Mae hwn wedi bod yn brosiect partneriaeth gwych ac mae’n dangos sut gall cwmnïau ynni cydweithredol weithio ar y raddfa hon, gan mai dyma’r aráe fwyaf o solar ar doeon yng Nghymru. Ac mae’r Felodrom yn fwy na lleoliad beicio yn unig. Yn ystod argyfwng COVID-19, mae’r Felodrom wedi bod yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i helpu cleifion COVID-19 oedd ar beiriant anadlu i adsefydlu ar ôl gadael yr ysbyty. Y Rhaglen hon yw’r un gyntaf o’i math yng Nghymru, ac mae’n helpu cleifion i fynd nôl at y man lle maent eisiau bod, yn feddyliol ac yn gorfforol. Hoffem ddiolch i holl aelodau’r co-op a’n helpodd i wireddu hyn ac a wahoddodd mwy o bobl i ymuno â ni. Ac yn awr, gan fydd beicwyr Cymru yn cael eu pweru gan belydrau’r haul, gobeithiwn y byddan nhw’n mynd yn gyflymach nag erioed!”

Meddai Neil Sergeant, Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Mae hwn wedi bod yn brosiect anhygoel i’w gefnogi – rydym wedi helpu i wireddu rhaglen waith bwysig sy’n rhan o uchelgais Cyngor Dinas Casnewydd i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae defnyddio cyfleuster cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y gosodiad solar ar doeon mwyaf yn y wlad wedi bod yn heriol, ond yn werth chweil dros ben. Mae’r bartneriaeth gydweithio hon yn dangos yr ymrwymiad i brosiect o raddfa a natur na welwyd o’r blaen yng Nghymru. Mae’r ffilm a grëwyd ac a lansiwyd fel rhan o’r wybodaeth i’r cyfryngau yn cipio hanfod yr arloesedd sy’n nodweddu’r ddinas, a sut gellir cyflawni pethau mawr pan fod partneriaid yn gallu cydweithredu.”

Meddai Jim Cardy, Uwch Reolwr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o grwpiau ynni cymunedol yn cydweithio’n agos gyda phartner sy’n Awdurdod Lleol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Roedd Owen Callender, o’r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru, wedi rhyfeddu: “Mae gwylio’r darnau o ffilm gan ddronau yn dangos y solar ar doeon yn cael ei osod ar y Felodrom Cenedlaethol nid yn unig yn syfrdanol, ond mae hefyd yn gwneud i chi sylweddoli bod miloedd o doeon cyhoeddus, cymunedol a busnes ar gael ledled a allai ddefnyddio ynni’r haul i drawsnewid y ffordd rydym yn pweru Cymru. Mae ein gwaith yn cefnogi sefydliadau cymunedol yng Nghymru yn awgrymu bod awydd cryf am newid cynaliadwy yn bodoli, ac mae’n galonogol gweld Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gydag Egni Co-op i arwain drwy esiampl a phrofi bod y dyfodol yn bosibl yn barod.”

Esboniodd Dr Chris Jardine, Cyfarwyddwr Technegol Joju Solar: “Mae ynni cymunedol yn ffordd o gyflawni gostyngiadau carbon ar raddfa sylweddol, ac ar yr un pryd rydym yn cyd-ymweithio â’r gymuned leol.  Mae’n rhaid creu’r trawsnewid i ynni cynaliadwy o’r gwaelod i fyny fel hyn, os yw’n mynd i fod yn llwyddiannus.  Mae cynllun Egni yng Nghasnewydd yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni ac roeddem yn falch iawn o gael gosod paneli ar y Felodrom”

Meddai José Carlos o brosiect YOUCOOPE yr Undeb Ewropeaidd: “Rydym eisiau ehangu addysg am gwmnïau cydweithredol ar draws Ewrop ac mae’n wych gweld bod y Felodrom a holl ysgolion Cymru wedi dod at ei gilydd drwy strwythur o gwmnïau cydweithredol i osod mwy na 3MW o baneli solar.”

Fersiynau llawn

English: https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Fersiwn Cymraeg: https://youtu.be/AcxIKfEodBw

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

Cyngor Dinas Casnewydd – cefndir y prosiect solar

Yn ogystal â’r prosiect yn y Felodrom Cenedlaethol, mae paneli solar wedi cael eu gosod ar ysgolion, depo’r cyngor a chartrefi gofal.

Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio ar y safle gan leihau allyriadau carbon y cyngor o 348 tunnell y flwyddyn. Bydd peth trydan yn cael ei allforio i’r grid er defnydd y ddinas hefyd.

Mae’r paneli solar yng Nghasnewydd wedi cael eu hariannu gan fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru a chynnig cyfranddaliadau parhaus cwmni cydweithredol Egni, sydd wedi codi £1.94m hyd yma.

Ar gyfer y Cyngor:

public.relations@newport.gov.uk

01633 656656 neu 01633 210461

www.newport.gov.uk/cy/Hafan.aspx

Dilynwch/Follow:

@CyngorCasnewydd

@NewportCouncil

facebook.com/cyngordinascasnewydd

facebook.com/NewportCityCouncil

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Ynglŷn ag Egni Co-op

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. www.egni.coop

Cymunedau Cynaliadwy Cymru

Mae CCC yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol ar draws y wlad i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau. Maent yn lleihau eu hallyriadau ac yn gweithredu fel esiampl o gynaliadwyedd ar gyfer y gymuned gyfan. Ariennir CCC gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gyflenwi gan gonsortiwm o arbenigwyr ar effeithlonrwydd ynni yng Nghymru, dan arweiniad y Severn Wye Energy Agency. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://sustainablecommunities.wales/?lang=cy

Ynglŷn â Chasnewydd Fyw

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad dosbarthu nid-er-elw ac yn elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd. Mae Casnewydd Fyw yn gwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif Cwmni 9323582, ac mae’n elusen gofrestredig. Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cael ei chydnabod fel Canolfan y Celfyddydau Perfformio Rhanbarthol gan Gyngor Celfyddydau Cymru hefyd.

Mae Casnewydd Fyw yn rhedeg y Ganolfan Byw’n Actif, Canolfan Casnewydd, Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, y Ganolfan Gysylltu, a Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd (NISV). Mae’r NISV hefyd yn cynnwys Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, Canolfan Tenis a Nofio Ranbarthol De Ddwyrain Cymru a Stadiwm Casnewydd, ac ar yr un pryd mae’n darparu rhaglenni Datblygu’r Celfyddydau a Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol sy’n arobryn ac yn arweinwyr y sector. Fel sefydliad dosbarthu nid-er-elw ac elusen gofrestredig, mae’r holl arian a enillir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau a’r cyfleusterau a gynigir ganddynt, felly mae holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw yn cefnogi’r gymuned leol drwy ddarparu’r prosiectau a’r gweithgareddau hyn. 

I gael rhagor o wybodaeth am Gasnewydd Fyw, ewch i www.newportlive.co.uk/cy/ neu anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk. Gallwch gyrraedd Casnewydd Fyw ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn Facebook.com/NewportLiveUK a @NewportLiveUK ar Twitter ac Instagram.

Rhaglen Adsefydlu ‘Ar Ôl COVID-19’ gyntaf Cymru yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas: https://bipab.gig.cymru/newyddion/newyddion/rhaglen-adsefydlu-ar-ol-covid-19-cyntaf-cymru/

Rhannu’r Dudalen