Interniaid o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn helpu i godi dros £473,000 mewn Cyfranddaliadau Cymunedol.

Mae Egni Coop wedi cyflogi dau fyfyriwr marchnata fel interniaid, sef Matthew Kilgariff a Jordan Coller, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae hwn yn ymdrech cydweithredol gyda’r brifysgol ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr – Lleoliadau er Lles, i annog cynaliadwyedd mewn addysg ledled Cymru a’r DU. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS) wedi sefydlu enw da arobryn yn barod, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, fel arweinydd mewn cynaliadwyedd ym myd addysg uwch. Mae’r Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) yn gosod cynaliadwyedd wrth graidd addysg.

Nod Egni Coop yw gosod hyd at 5,000 kw o solar ar 250 o safleoedd ar draws Cymru. Bydd hyn yn arbed £8m i’r safleoedd dros y 30 mlynedd nesaf ac yn atal 35,000 o dunellau o allyriadau carbon. Mae gan Egni Gynnig Cyfranddaliadau ar agor i godi hyd at £750k – mae’r myfyrwyr wedi cyrraedd £473k yn barod.

Fel rhan o’r prosiect, bydd Egni yn creu cronfa addysg gwerth £2.9 miliwn ar gyfer ysgolion a phrifysgolion Cymru.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gyllido:

Mae Egni wedi bod yn cydweithio ag ysgolion ar draws Cymru yn barod, yn cynnwys Ysgol y Bedol, Garnant, gan gynnal sgyrsiau â disgyblion ynglŷn â newid hinsawdd. Gosodwyd paneli solar ar yr ysgol hefyd i arbed arian i’r ysgol a lleihau eu hôl-troed carbon.

Mae grwpiau amgylcheddol fel Extinction Rebellion wedi bod yn pwyso ar y llywodraeth i gyhoeddi argyfwng hinsawdd cenedlaethol, gyda gwrthdystiadau ledled y Deyrnas Unedig. Mae cynaliadwyedd ac ailgylchu adnoddau yn bwysicach nag erioed. Mae Egni Coop yn credu bod addysg ynglŷn â newid hinsawdd, o ysgolion cynradd i brifysgolion, yn bwysicach nag erioed.

Ymweliad â’n prosiect chwaer, Fferm Wynt Awel

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.egni.coop neu ffoniwch 01639 830870.

Jane Davidson, Pro Is-Ganghellor dros Ymgysylltu Allanol a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr weithio ar gynnig cyfranddaliadau Cymru Gyfan gydag Egni ac rwy’n falch iawn eu bod wedi codi mwy na £473k yn barod. Mae cynaliadwyedd yn ffocws ar ein cwrs Astudiaethau Busnes yn Y Drindod Dewi Sant ac rydym wrth ein bodd o weld bod ein myfyrwyr yn gallu defnyddio’u sgiliau i gefnogi’r prosiect hwn.”

Matthew Kilgariff, Intern Marchnata i Egni o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Dwi wedi bod yn lwcus i gael dod yn intern yn Egni Coop. Mae wedi bod yn gyfle i mi gymhwyso fy ngwybodaeth yn uniongyrchol, a helpu Egni i gyrraedd eu nodau amgylcheddol a chymunedol ar draws Cymru ar yr un pryd. Mae dysgu am strwythur a phwysigrwydd prosiectau ynni cymunedol fel Egni wedi fy helpu i weld posibiliadau’r sector ar gyfer y dyfodol. Rwy’n credu y bydd cynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol yn fy addysg yn rhoi mantais i mi mewn marchnad swyddi gystadleuol.”

Jordan Coller, Intern Marchnata i Egni o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Trwy’r bartneriaeth rhwng PCDDS â ‘Lleoliadau er Lles’, llwyddon nhw i gael interniaeth i mi gydag Egni Coop. Wrth weithio fel marchnadwr i Egni, dwi wedi dysgu sgiliau sylfaenol trwy gael profiad o’r diwylliant gweithio/marchnata nad yw o reidrwydd yn cael ei addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Er enghraifft, o fewn yn amgylchedd mentrau cymdeithasol, ystyrir bod cydweithredu yn fwy gwerthfawr na chystadlu.”

Dan McCallum MBE, Cadeirydd Egni Coop: 

“Mae’n wych cael Jordan a Matthew yn gweithio gyda ni. Mae’r ddau yn ddawnus ac yn ymrwymedig iawn. Mae eu brwdfrydedd a’u gwaith caled wedi bod yn gymorth mawr i ni.”

Meg Baker, Uwch Swyddog Prosiect – Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr:

“Rydym yn falch dros ben o weld ein dau fyfyriwr cyntaf ar gynllun Lleoliadau er Lles UCM yn cael effaith cymdeithasol ac amgylcheddol go iawn drwy ddysgu seiliedig ar waith yn Egni. Dyma’r union nod roedd y rhaglen yn bwriadu ei chyflawni ac mae’n bleser cael gweithio gyda chwmni cydweithredol blaengar a allai weld y manteision o bartneru â myfyrwyr yn eu gwaith.”

Rhannu’r Dudalen