Hwb y Gors – Rydym yn recriwtio!

Rydym yn llawn cynnwrf wrth i ni recriwtio tîm o bobl frwdfrydig i’n helpu i redeg Hwb y Gors pan fyddwn yn agor yn y Gwanwyn 2025!

Rydym yn chwilio am bobl sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi lles cymunedol. Byddant yn cydweithio’n agos gyda thîm Awel Aman Tawe i sicrhau llwyddiant aruthrol i’n Hwb Cymunedol carbon isel newydd ar gyfer addysg, menter a’r celfyddydau.

Mae Awel Aman Tawe yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, y mae ei rhaglen waith yn cefnogi’r trawsnewid i sero net.  Rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, cadernid cymunedol, trafnidiaeth gynaliadwy, celfyddydau cymunedol a rhaglenni addysg. Rydym wedi datblygu dau o’r cwmnïau cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yn y DU sydd wedi helpu i gefnogi datblygiad Hwb y Gors.

Rydym yn llawn cynnwrf wrth hysbysebu’r rolau canlynol:

Cliciwch ar y dolennau uchod i weld y disgrifiadau swydd.

Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at: louise@awel.coop

Rhannu’r Dudalen