Mae Egni Coop a Haverhub wedi cydweithio i osod system solar 30kw at yr adeilad eiconig yng nghanol Hwlffordd.
Lleolir Haverhub yn hen adeilad y Swyddfa Bost, ac mae’n datblygu’n raddol yn fenter gymdeithasol greadigol, sydd â’r nod o adfywio’r dref trwy ddarparu gweithle cydweithredol, canolfan ddigwyddiadau ac ystafelloedd cyfarfod.
Meddai Jerry Evans o Haverhub “Rydym mor falch o weld yr ymateb i’r gosodiad solar o gwmpas y dref ac ar Facebook. Mae’n codi calon pobl pan fyddan nhw’n gweld rhywbeth cadarnhaol fel hyn. Rydyn ni’n ceisio gwneud cymaint ag y gallwn dros yr amgylchedd – dylai arbed tua wyth tunnell o garbon bob blwyddyn – dyna’r budd i’r amgylchedd – ac mae’n lleihau ein costau trydan hefyd.
Rydym yn lleoliad pwysig ar gyfer gwirfoddoli yn y dref ac rydym wedi cael canlyniadau cadarnhaol iawn yn barod – mae o leiaf 5 o’n cyn-gynorthwywyr yn Haverhub wedi symud o ddiweithdra tymor hir i ddod o hyd i swyddi parhaol y tu allan i Haverhub. Y cyfan wnaethon ni oedd cynnig lle iddyn nhw ble gallent adennill eu hyder ac ymgyfarwyddo â byd gwaith unwaith eto.”
Meddai Kaz Deverson o Haverhub “Rydyn ni eisiau bod yn lleoliad carbon isel a thrwy weithio mewn partneriaeth ag Egni Coop, rydym wedi cymryd cam mawr i’r cyfeiriad hwnnw. Mae newid hinsawdd yn fater proffil uchel ac mae Haverhub eisiau bod yn y rheng flaen yn ein tref o ran helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae Hwlffordd yn heulog drwy’r amser felly rydym yn gobeithio cael llawer o ynni gwyrdd glân!”
Meddai Rosie Gillam o Egni “Mae Egni yn darparu solar ffotofoltaig sy’n perthyn i’r gymuned i ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol ar draws Cymru: gan fynd i’r afael â newid hinsawdd, darparu adnoddau addysgol a chadw arian yn lleol. Rydym wrth ein bodd o gael helpu canolfan gymunedol mor anhygoel â Haverhub i leihau eu hôl-troed carbon…. a’u biliau hefyd!
Mae hefyd yn dda iawn clywed bod Llywodraeth Cymru yn helpu i ailwampio’r adeilad – er mwyn helpu gyda’r gwaith adnewyddu parhaol ar yr adeilad, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o £250,000 ar gyfer y rhaglen cyfleusterau cymunedol, sy’n rhoi grantiau i sefydliadau fel y gallant brynu a gwella eu hadeiladau a’u prosiectau cymunedol. Rhoddir diweddariad llawn ar lwyddiannau Haverhub yn y Western Telegraph yma”
Mae pobl ledled y DU yn awyddus iawn i ymgymryd â newid hinsawdd – fel y gwelir yn ein Cynnig Cyfranddaliadau sydd bellach wedi cyrraedd y swm syfrdanol o £1.4m – rydym bron â chyrraedd ein targed o £1.5m. Gallwch ymunwch â ni yma www.egni.coop
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://haverhub.org.uk ac www.egni.coop
Nodiadau i’r Golygydd
Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymgysylltu â phobl mewn ynni.
Mae’r tîm y tu ôl i Egni hefyd wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop
Cafodd Egni ei gydnabod fel Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni wobrwyo a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn y Gwobrau Academi Cynaliadwy. Ac fe gafodd ein rhiant-elusen, Awel Aman Tawe, ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.
Cyllid dichonoldeb. Hoffem estyn diolch arbennig i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru am ariannu costau’r astudiaeth ddichonoldeb. Roedd hyn yn dadrisgio’r prosiectau ac yn ein galluogi i ariannu costau’r gosodiadau solar o’n Cynnig Cyfranddaliadau sydd bellach wedi codi £1.4m. Gall pobl ymuno â’n cwmni cydweithredol a buddsoddi £50 neu fwy – ewch i www.egnicoop am ragor o wybodaeth a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Fel rhan o’i Gynnig Cyfranddaliadau newydd, llwyddodd Egni i sicrhau cymhorthdal Tariff Bwydo i Mewn (FiT) ar gyfer paneli solar ar safleoedd ar draws Cymru sydd â chapasiti mwyaf o tua 3,000kW. Hwn yw’r dyraniad mwyaf yn y DU a bydd yn cynrychioli’r dosbarthiad mwyaf yn hanes Cymru o ran solar ar doeon. Mae’r safleoedd yn cynnwys busnesau lleol, canolfannau cymuned, prifysgolion, maes golff, bragdy, clybiau rygbi, canolfannau hamdden ac ysgolion.
Bydd Egni yn cyflawni:
- Enillion rhagamcanol o 4%
- 3-4,000kW o solar newydd ar doeon
- Arbedion carbon o 25,000 o dunelli ar hyd oes y prosiect
- Cronfa Addysgol gwerth £2m ar gyfer gwaith mewn ysgolion a phrifysgolion ar brosiectau newid hinsawdd
- Arbedion trydan o £8m ar gyfer y safleoedd dros y 30 mlynedd nesaf