Gyd-berchen eich fferm wynt cymunedol

Awel-open-evening

Aelodau Cydweithfa Awel ar y Gwrhyd

Ymwelodd deg aelod ar hugain o Gydweithfa Awel y safle i weld y cynnydd ar y fferm wynt gymunedol sy’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.

Yr aelod hynaf oedd Eric Bowen 84 mlwydd oed a gafodd ei fagu ar y Gwrhyd ac wedi gweithio ar hyd ei oes yn y pwll glo brig yn Nheirgwaith, yn agos i’r fferm wynt. Dywedodd Eric, “Bûm yn arfer cerdded ar yr holl lwybrau hyn pan oeddwn yn fachgen. Rwy’n edrych ymlaen at weld y tyrbinau i fyny ar y mynyddoedd yn cynhyrchu pŵer glân ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mwynheais drafod agweddau technegol y tyrbinau gyda’r peirianwyr ar yr ymweliad.”

Dywedodd Sioned Haf a Mair Craig, dwy sydd wedi buddsoddi yn y gydweithfa, “Roedd hi’n hyfryd bod allan yn yr awyr iach. Mae’n safle gwych ar gyfer tyrbinau gwynt ac mae’n dda gwybod mai ein cydweithfa gymunedol ni sy’n berchen arnynt.”

Mae’r gydweithfa newydd ail-agor ei Chynnig i alluogi pobl i fuddsoddi ystod y gwaith adeiladu y gellir ei ddilyn yma. Mae’r gydweithfa yn anelu at godi £1,000,000 o fewn mis. Mae popeth yn mynd yn ei flaen yn dda ac rydym wedi pasio’r marc £800,000 eisoes.

Dan McCallum, un o Gyfarwyddwyr Awel, “Rydym penodi cwmni lleol, Raymond Brown Adeiladu, i ddechrau adeiladu ym mis Mawrth ac rydym wrth ein bodd gyda chynnydd. Mae wedi bod yn wych i weld ansawdd y gwaith.

Bellach mae gennym 370 o aelodau ac rydym yn gobeithio bydd llawer mwy yn ymuno â ni. Yn y dyfodol, bwriadwn drefnu ymweliadau rheolaidd i’r safle gan fod pawb wedi mwynhau.”

Y Cynnig ar agor tan fis Mehefin 15fed am ragwelir gyfradd llog o 7%.

Cyfranddaliadau ar gael o £50 ac fel co-op, pob aelod hawl i un bleidlais, heb ystyried faint o gyfranddaliadau maent yn berchen.

Rydym am i fwy o bobl i ymuno â’r cwmni cydweithredol a rhannu’r cyffro o fod yn rhan o rhywbeth cadarnhaol.

Rhannu’r Dudalen