Gwahoddiad i’r Lleuad

Mae Egni Coop/Awel Aman Tawe yn eich gwahodd i’n harddangosfa Neges ar gyfer y Bydysawd yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, ddydd Gwener 18 Hydref rhwng 6-8pm.

Mae’r arddangosfa hon yn dilyn cyfranogiad gan dros 500 o blant ysgol a phobl leol a helpodd i adeiladu ein capsiwl gofod cynaliadwy, ‘Greta’, ac a gymerodd ran yn y gweithdai creadigol. Mae’r gweithdai hyn yn annog pobl i feddwl am Y Ddaear fel cyfanwaith ac ystyried mai ein cartref ninnau, hyd y gwyddwn, yw’r unig fan yn ehangder y bydysawd lle mae bywyd yn bodoli. 

Mae prosiect Egni Coop yn dathlu 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y Lleuad, ond mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o Anhrefn Hinsawdd – ac o gynnig cyfranddaliadau solar Cymru gyfan Egni. Mae’n brosiect difyr a phryfoclyd: mae’r artist-fardd, Emily Hinshelwood, wedi glanio Greta ar y ‘lleuad’, gan ffrydio darnau o ffilm yn fyw o orsaf ofod NASA am ddiwrnod lleuad cyfan (28 diwrnod ar y ddaear). Ar hyn o bryd mae’n byw yn y capsiwl a bydd yno am bythefnos tan y 18fed! Bydd Emily yn darllen ei cherdd ‘Beth Os’ o’r llyfr Rob Hopkins.

Cliciwch yma os hoffech chi fod yn bresennol. Bydd gwydraid o sudd neu win o Ewrop, a bwyd lleol, am ddim!

Gosodiadau solar: ar hyn o bryd rydym yn gosod solar ar naw safle: Neuadd y Frenhines Arberth, Pontypridd Precision Engineering yng Nglynrhedynog, Canolfan Ynni Cwm-gors, Pontus Ltd yn Hirwaun, Canolfan Gymunedol Hirwaun, Neuadd Gymunedol East Williamston, Canolfan Gynadledda Glasdir, Canolfan Gymunedol Llangatwg a Chanolfan Gymunedol Owain Glyndŵr – sef amrywiaeth o adeiladau cymunedol a hefyd busnesau Cymreig blaengar sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau eu costau ynni drwy gydweithio gyda ni. Mae’r gosodiadau hyn yn ogystal â’n saith safle presennol sydd wedi bod yn gweithredu ers 2014.  Mae llawer o adeiladau cymunedol a busnesau eraill yn yr arfaeth.

Cynnig Cyfranddaliadau: Erbyn hyn rydym wedi codi £950k o’n cynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol ac rydym wedi derbyn cynnig benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gwerth £3.5m. Fodd bynnag, hoffem roi cyfle i gymaint o bobl a chwmnïau â phosibl ar draws y DU fod yn berchenegion solar ar doeon yng Nghymru – felly beth am fuddsoddi £50 neu fwy. Mae hefyd yn golygu y gall Egni fuddsoddi mwy o arian mewn prosiectau newid hinsawdd ac addysgol yn y dyfodol gan fod ein Cynnig Cyfranddaliadau yn talu llog o 4% y flwyddyn i’n haelodau tra bod y llog ar yr arian a fenthycwn gan y Banc Datblygu yn 5%

Pleidleisiwch drosom ni! Rydym ar y rhestr fer am ddwy wobr lle mae’r cyhoedd yn cael pleidleisio. Un o’r rhain yw’r llun Taith i’r Lleuad sydd ar y rhestr fer yng Ngwobrau Ynni Cymunedol Cymru a Lloegr – gallwch bleidleisio yma. Y llall yw Gwobrau Academi Cynaliadwy Cynnal Cymru lle mae Egni Coop ar y rhestr fer am y prosiect gorau.

Rhannu’r Dudalen