Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru yn buddsoddi mewn Cydweiynni gwynt yn y gymuned

Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru

Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru yn buddsoddi mewn Cydweiynni gwynt yn y gymuned, Awel co-op

“Mae barddoniaeth a chariad at y ddaear yn angerdd cyfun i mi,” ysgrifenna Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru, cefnogwr diweddaraf Awel Co-op, cynllun  ynni gwynt yn y gymuned yn Ne Cymru, “cerddi serch i’r ddaear yw fy ngherddi.”

Yn ei chefnogaeth at ddau gynllun tyrbin Awel Co-op ar Fynydd y Gwrhyd, dyweda “dyma’r ffordd y dylai cynhyrchu pŵer gael ei wneud, fesul pentref, fesul cymuned, tyrbinau dŵr, tyrbinau gwynt, gyda’r holl elw yn mynd yn ôl i’r bobl. Mae’r cynllun hwn sy’n eiddo i’r gymuned, yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwy yn un i’w gefnogi”, ymbilia, ac fel un o Hyrwyddwyr Gwyrdd Cymru nid yw’n ddieithryn i gynaladwyedd.

Mae Emily Hinshelwood a redodd raglen Celfyddydau a Newid Hinsawdd Awel Aman Tawe am bedair blynedd yn falch iawn o glywed fod Gillian yn cefnogi’r cynllun. “Bu i Gillian feirniadu un o’n cystadlaethau barddoniaeth newid yn yr hinsawdd. Mae hi’n fardd o grefft anhygoel, ac mae’n mynegi empathi at y ddaear sy’n cyrraedd rhannau nad oes modd i ystadegau eu cyrraedd.”

“Mae bywyd a chelfyddyd yn rhywbeth sengl”, dywedodd Gillian yn noson wobrwyo Awel Aman Tawe, “mae’r hyn rydym yn ei greu i’w rannu, ein penderfyniadau artistig a moesol. ”Mae Awel Coop yn cytuno gyda’r safbwynt hwn, harneisio adnoddau’r ddaear mewn modd cynaliadwy, a bwydo’r holl elw yn ôl i’r gymuned leol. “Drwy fuddsoddi yn ein hynni gwynt yn y gymuned”, dyweda Emily, “gall rhywun gefnogi’r greadigaeth hon a rennir – y gerdd serch hon i’r ddaear.”

Mae’r Cynnig Rhannu yn dal ar agor a gall unigolion dalu drwy drosglwyddiad banc hyd at hanner nos ar 26 Tachwedd. Bydd hyn yn galluogi buddsoddwyr i hawlio gostyngiad yn y dreth bresennol cyn iddo gael ei dynnu yn ôl gan y llywodraeth.

I gael gwybod rhagor ac i ymgeisio ewch i www.awel.coop

Manylion Pellach:

Bydd y ddau dyrbin yn cynhyrchu ynni glân, ac yn bwydo holl enillion yn ôl i brosiectau cymunedol.

Mae hwn yn gyfle i fod yn berchen ar ychydig o bŵer gwynt Cymru, gweithredu ar newid hinsawdd a chael arian yn ôl ar eich buddsoddiad. Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu gan Awel Aman Tawe, sef elusen leol. Mae caniatâd cynllunio llawn mewn lle ar gyfer dau dyrbin, gan wneud cyfanswm o 4.7 MW ar Fynydd y Gwrhyd, rhyw 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.

Mae £342k wedi cael ei fuddsoddi yn barod ledled y DU ers y lansiwyd y Cynnig Cyfranddaliadau yr wythnos ddiwethaf.

Mae cyfnod 5 diwrnod ar ôl ar gyfer y Cynnig hwn. Mae’r Cynnig Cyfranddaliadau ar agor tan Dachwedd 26dd 2015 drwy drosglwyddiad BACs. Bydd hyn yn galluogi buddsoddwyr i hawlio gostyngiad treth presennol cyn y caiff ei dynnu’n ôl gan y llywodraeth: 

Cliciwch yma i lawrlwytho eich Dogfen a Ffurflen Gais Cynnig Cyfranddaliadau.

Rwy’n gobeithio yr ystyriwch ymuno â ni,

Gyda dymuniadau gorau,

Dan McCallum, Awel Co-op

Rhannu’r Dudalen