Gêm codi ffyn – egni wynt a diwrnodau agored

Gwyliwch ein fideo newydd Gêm codi ffyn – egni wynt – 4 diwrnod o waith mewn 3 munud!

Rydym ni’n cynnal ymweliadau â’r safle ddydd Gwener 22 Gorffennaf am 2pm, dydd Mawrth 26 Gorffennaf am 10am a dydd Iau 11 Awst am 2pm. Mae lle i 10 o bobl ar bob ymweliad felly anfonwch e-bost i info@awelamantawe.co.uk i gadw lle. Byddwn ni’n cyfarfod yn y swyddfeydd ar y safle, oddi ar yr A474, 3 milltir i’r gogledd o Bontardawe.

Byddwn ni’n gyrru 4 cilometr i fyny’r trac i weld sylfeini’r tyrbin a’r isbwerdy. Bydd ein peirianwyr o gwmni adeiladu Raymond Brown ar y safle a bydd digon o amser i ofyn cwestiynau. Bydd paned o de a phice ar y maen hefyd.

Gallwch ddarllen am hynt y gwaith adeiladu a gweld lluniau yn Awelog

Mae ein hymgyrch gyfranddaliadau wedi mynd yn wych ac rydym ni bellach wedi sicrhau dros £1.2 miliwn. Mae dal cyfle i chi  ac ymuno â ni.

Gobeithio eich gweld chi cyn bo hir

Rhannu’r Dudalen