Ym mherfeddion hen gymoedd glo De Cymru, mae creadur newydd grymus yn dod i’r amlwg, a grëwyd gan feddyliau ifanc gorau’r wlad: Dipsy, yr Eco-Gath! Mae hi nawr ar ei ffordd i COP26, wedi gwylltio gan y diffyg cynnydd yn ystod yr wythnos gyntaf o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae Dipsy yn cario llond sach o negeseuon gan blant ysgol Cymru.
Sut wnaeth hyn ddigwydd? Esboniodd Emily Hinshelwood, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, “Roeddwn yng nghanol galwad zoom gyda 300 o blant yn Sir Benfro, yn sgwrsio am sut lwyddon ni i adeiladu ein fferm wynt gymunedol ar ôl brwydro am bron 20 mlynedd. Dringodd Dipsy ar fy ysgwyddau yn ystod y galwad zoom ac roedd y plant yn dwli arni. Gofynnont gwestiynau am y tyrbinau gwynt a’r newid yn yr hinsawdd – felly dechreuais greu cartwnau yn dangos sut mae Dipsy’n cael hyd i’r atebion.
Meddai Jen James, Swyddog Addysg Awel Aman Tawe, “Mae’r plant yn Ysgolion Sir Benfro – Y Frenni, Saundersfoot, Bro Ingli a Gelli Aur – yn hoff iawn o’r cartwnau, ac maen nhw hefyd wedi bod yn tynnu lluniau Dipsy fel rhan o’n prosiect Rhyfelwyr Ynni. Prosiect cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chelf yw hwn sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag EnergySparks, Ynni Da, Sion Tomos Owen, Mr Phormula a TTS Practical Science. Rydyn ni’n cael yr un ymateb yn ysgolion Casnewydd lle tynnodd ddisgybl yn Ysgol Gyfun Caerllion y llun hyfryd hwn o’r camau mae Dipsy yn eu hargymell i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Ychwanegodd Emily, “Mae gan Gymru draddodiad hir o gathod grymus yn dechrau gyda Chath Palug ar Ynys Môn, y clywyd amdani gyntaf yn y 13eg ganrif. Heriodd Palug yr arweinwyr – roeddwn yn hoff iawn o’r stori hon a chreais ddarlun i fynd gyda geiriau hardd Jackie Morris. Yn ffodus, mae’r negeseuon mae Dipsy yn mynd â nhw i COP yn cael eu dewis yn barod gan ein harweinwyr polisi ar newid hinsawdd – mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, a Poppy Stowell-Evans, Cadeirydd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, wedi aildrydaru Dipsy. Ond dylai’r arweinwyr eraill yn COP gofio chwedl Cath Palug os nad ydynt yn gweithredu’n gyfrifol!”
Mae’r cyfrifoldeb i gyd ar y gwleidyddion i gyflawni ymrwymiadau go iawn. Mae Rhyfelwyr Ynni yn ysgolion Cymru wedi cydweithio gydag Egni Co-op yn barod i osod paneli solar, a nawr maent yn gwneud toriadau ychwanegol i’r allyriadau mewn ysgolion. Bydd Dipsy, a’i negeseuon gan Ryfelwyr Ynni Cymru, yn eistedd ar ysgwyddau arweinwyr COP yr wythnos hon…..