Galwad am Artistiaid

Rydym yn chwilio am 2 ymarferwr creadigol  – Artist Tecstilau ac Artist Arfer Cymdeithasol i gyd-arwain ein prosiect Ein Milltir Sgwâr – Our Square Mile.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Rhagfyr 2021 5pm


Mae Awel Aman Tawe wedi bod yn datblygu prosiectau amgylcheddol, addysg, menter a’r celfyddydau yn y gymuned ers 22 flynedd. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu hen ysgol gynradd Cwm-gors i greu Canolfan Ddi-Garbon newydd gyffrous i artistiaid, addysgwyr ac entrepreneuriaid yng Nghymoedd Tawe ac Aman: Hwb y Gors. Bydd y ganolfan hon yn hyrwyddo ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau ym mhob rhan o’r adeilad, gan gydnabod dychymyg, chwarae, a dyfeisio’n fyrfyfyr fel elfennau hanfodol ar gyfer datblygu dyfodol cynaliadwy.

Yn y 6 mis cyn agor y ganolfan, rydyn ni’n gweithio gydag Urdd Gwehyddion, Nyddwyr a Lliwyddion Tawe i redeg prosiect treftadaeth a thecstilau – “Ein Milltir Sgwâr / Our Square Mile” – a fydd yn cynnwys pobl leol ac yn ennyn eu diddordeb i greu darnau o waith trawiadol ar gyfer y ganolfan.

Yn ystod y broses o greu darnau o decstilau gwreiddiol a dychmygus, nod y prosiect fydd a) sefydlu’r celfyddydau fel rhan annatod o’r ganolfan, b) ennyn diddordeb y gymuned yn y broses o ddatblygu a lansio’r ganolfan drwy’r celfyddydau a c) hyrwyddo’r Hwb ymhlith creawdwyr ac artistiaid llawrydd a datblygu ein rhaglen artistig barhaus mewn cydweithrediad â nhw.

Bydd y prosiect yn ymwneud â chasglu atgofion, tameidiau, ffotograffau ac ati, rhannu sgiliau tecstilau, a chreu’r darn(au) o waith gorffenedig. Bydd y darnau’n cael eu cynhyrchu mewn gweithdai ar y cyd â grwpiau cymunedol, cyn-ddisgyblion, a phreswylwyr lleol. Byddwn yn ymrwymo i wneud i siaradwyr Cymraeg a Saesneg deimlo bod yr un croeso iddynt, ac i sicrhau bod aelodau o’r gymuned sydd ag anableddau neu sydd ar incwm isel, yn cael eu cynnwys yn llawn.

Pwy ddylai ymgeisio? 

Rydym yn chwilio am 2 ymarferwr creadigol i gyd-arwain y prosiect hwn – Artist Tecstilau ac Artist Arfer Cymdeithasol – a fydd yn gweithio ar y cyd ag Urdd Tawe ac Awel Aman Tawe i gipio, cadw ac arddangos atgofion pobl trwy broses greadigol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymarferwyr sydd â phrofiad o weithio gyda chymuned, sy’n mabwysiadu arferion cynaliadwy, ac sydd â diddordeb mewn hanes lleol.

Artist Tecstilau: Rydyn ni’n chwilio am artist tecstilau sefydledig a all helpu i greu’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y darn(au), ac arwain y gymuned ac Urdd Tawe wrth gyflawni hyn. Mae gan aelodau Urdd Tawe sgiliau penodol mewn amrywiol ffurfiau ar wehyddu, ynghyd â nyddu a llifo, ac mae ganddynt hefyd ddiddordeb mawr mewn meysydd eraill o gelf tecstilau, fel ffeltio a phwytho. Felly, rydym yn gobeithio dod o hyd i rywun sydd â phrofiad mewn amrywiaeth o dechnegau tecstilau i arwain prosiect a fydd yn manteisio ar y sgiliau a’r diddordebau hyn, ac yn eu datblygu.

Artist Arfer Cymdeithasol: Rydym yn chwilio am siaradwr Cymraeg sydd â phrofiad o ddefnyddio’r celfyddydau fel ffordd o ennyn diddordeb pobl mewn prosiectau. Rydym yn awyddus iawn i gynnwys pobl leol a all rannu eu storïau a’u hatgofion o’r ardal, ac i ymwreiddio’r rhain yn y darnau. Gobeithiwn ddod o hyd i rywun sy’n rhannu’n brwdfrydedd yn hyn o beth.

Ffioedd:  £5,000 i bob artist.

Disgwyliwn i bob artist weithio am 20 diwrnod yn ystod y prosiect – a fydd yn para 6 mis.

Lleoliad:

Lleoliad: Cwm-gors a’r cwmpasoedd

Dyddiadau:

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Rhagfyr 2021

Dewis y rhestr fer: 11 Ionawr 2022

Dyddiad cyfweliadau: 17 Ionawr 2022

Dyddiad cychwyn y prosiect: 1 Chwefror (er bydd hyn yn dibynnu ar argaeledd yr artistiaid a ddewiswyd)

Y broses ymgeisio:

Nid oes ffurflen gais ffurfiol ar gyfer y penodiad hwn, ond anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb atom, yn esbonio pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn, sut fyddech yn mynd ati i arwain y prosiect hwn, a pha brofiad perthnasol gallwch gyfrannu iddo.

Anfonwch eich CV, ynghyd â chrynodeb o’ch profiad diweddar ac unrhyw dystebau perthnasol, a dolennau i enghreifftiau o’ch gwaith. Mae angen i chi gynnwys manylion cyswllt dau ganolwr hefyd.

E-bostiwch eich cais at Emily Hinshelwood: emily@awel.coop a’i gopïo i taweguild@gmail.com ac angie.dickinson@live.co.uk

Rhannu’r Dudalen